Ffobia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Math o anhwylder gorbryder yw ffobia, ac fe'i diffinnir fel ymdeimlad o [[ofn]] parhaus, naill ai at wrthrych neu sefyllfa.<ref name=DSM5>{{citation|author=American Psychiatric Association|year=2013|title=Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (5th ed.)|location=Arlington|publisher=American Psychiatric Publishing|pages=190, 197–202|isbn=0890425558}}</ref> Mae'r ffobia fel arfer yn arwain at ymdeimlad o ofn enbyd a gall fod yn bresennol am fwy na chwe mis. Ai dioddefwr i raddau helaeth er mwyn osgoi'r sefyllfa neu'r gwrthrych oddi tan sylw, graddfa sydd fel arfer yn fwy na'r perygl gwirioneddol. Os na ellir osgoi'r gwrthrych neu'r sefyllfa a ofnir, bydd dioddefwr yn gofidio neu'n profi panig sylweddol. Gall ffobia o [[Gwaed|waed]] neu anaf arwain at lewygu. Mae [[agoraffobia]] yn gysylltiedig â [[Pwl o banig|phyliau panig]]. Fel arfer mae gan berson ffobia i nifer o wrthrychau neu sefyllfaoedd.
 
Gellir rhannu ffobiâu yn gategorïau; ffobiâu penodol, ffobiâu cymdeithasol ac agoraffobia.<ref name=Ham2009>{{cite journal|last1=Hamm|first1=AO|title=Specific phobias.|journal=The Psychiatric clinics of North America|date=September 2009|volume=32|issue=3|pages=577–91|pmid=19716991|doi=10.1016/j.psc.2009.05.008}}</ref> Ymhlith y ffobiâu penodol yma y mae ofni [[Anifail|anifeiliaid]], sefyllfaoedd amgylchoedd naturiol, ofni gwaed neu anafiadau, a sefyllfaoedd eraill. Mae'r ffobiâu penodol mwyaf cyffredin yn cynnwys ofni [[Corryn|pryfed cop]], [[Neidr|nadroedd]], ac uchder.<ref name=VA2016>{{cite web|title=Specific Phobias|url=http://www.mentalhealth.va.gov/specificphobias.asp|website=USVA|accessdate=26 July 2016|deadurl=no|archiveurl=https://web.archive.org/web/20160714221652/http://www.mentalhealth.va.gov/specificphobias.asp|archivedate=14 July 2016|df=}}</ref> O bryd i'w gilydd sbardunir ffobia gan brofiadau negyddol, naill ai gyda'r gwrthrychau neu mewn sefyllfaodd penodol. Diffinnir ffobia cymdeithasol fel proses o ofni sefyllfa a all arwain, yn llygaid y dioddefwr, at eraill yn eu barnu. Agoraphobia yw ofni sefyllfa na ellir dianc ohono'n hawdd.
 
Dylid trin ffobiâu penodol â therapi amlygiad, sef cyflwyno dioddefwr i'r sefyllfa neu'r gwrthrych dan sylw nes bod ei ofn yn cilio. Nid yw [[Meddyginiaeth|meddyginiaethau'n]] ddefnyddiol yn y math hwn o ffobia. Caiff ffobiâu cymdeithasol ac agoraffobia eu trin yn aml wrth gyfuno rhaglenni cwnsela a meddyginiaeth.<ref name=NIH2016/><ref name=Per2007>{{cite journal|last1=Perugi|first1=G|last2=Frare|first2=F|last3=Toni|first3=C|title=Diagnosis and treatment of agoraphobia with panic disorder.|journal=CNS Drugs|date=2007|volume=21|issue=9|pages=741–64|pmid=17696574|doi=10.2165/00023210-200721090-00004}}</ref> Defnyddir meddyginiaethau [[Cyffur gwrthiselder|gwrth-iselder]], bensodiasepinau, neu beta-atalyddion i drin y cyflwr.<ref name=NIH2016>{{cite web|title=Anxiety Disorders|url=http://www.nimh.nih.gov/health/topics/anxiety-disorders/index.shtml|website=NIMH|accessdate=27 July 2016|date=March 2016|deadurl=no|archiveurl=https://web.archive.org/web/20160727230427/http://www.nimh.nih.gov/health/topics/anxiety-disorders/index.shtml|archivedate=27 July 2016|df=}}</ref>
 
Effeithir oddeutu 6-8% o boblogaeth y [[Y Gorllewin|byd gorllewinol]] fan ffobiâu penodol yn flynyddol a 2-4% o boblogaeth [[Asia]], [[Affrica]], ac [[America Ladin]]. Mae ffobia cymdeithasol yn effeithio ar oddeutu 7% o boblogaeth yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]], tra effeithia 0.5-2.5% o'r boblogaeth ryngwladol. Y mae oddeutu 1.7% o boblogaeth y [[Y Ddaear|byd]] yn datblygu'r cyflwr agoraffobia.<ref name=DSM5Social>{{citation|author=American Psychiatric Association|year=2013|title=Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (5th ed.)|location=Arlington|publisher=American Psychiatric Publishing|pages=204, 218–219|isbn=0890425558}}</ref> Caiff dwbl y [[Dynes|menywod]] eu heffeithio gan y cyflwr i gymharu â [[Dyn|dynion]]. Mae ffobia fel arfer yn dechrau tra bod unigolyn rhwng 10 ac 17 mlwydd oed. Ceir cyfraddau is mewn unigolion hŷn. Mae pobl â ffobiâu yn fwy tebygol o hunanladd.
 
== Cyfeiriadau ==