Ceffalecsin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Defnydd meddygol: Cais i ddileu (Rhan 2) using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
Mae '''ceffalecsin''' yn [[Gwrthfiotig|wrthfiotic]] y gellir ei ddefnyddio i drin nifer o [[haint|heintiau]] bacteriol.<ref>{{Cite web|url=https://pubchem.ncbi.nlm.nih.gov/compound/27447|title=Ceffalecsin|last=Pubchem|website=pubchem.ncbi.nlm.nih.gov|language=en|access-date=2018-02-28}}</ref> Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₆H₁₇N₃O₄S.
 
== Gwybodaeth gyffredinol ==
Mae cefalexin yn lladd bacteria gram-gadarnhaol ac ambell i facteriwm gram-negyddol trwy amharu ar wal eu celloedd. Mae cefalexin yn antibiotig beta-lactam o fewn y dosbarth o cephalosporinau genhedlaeth gyntaf. Mae'n gweithio'n debyg i asiantau eraill o fewn y dosbarth hwn, gan gynnwys [[cefazolin]] mewnwythiennol, ond gellir cymryd cefalexin trwy'r genau
 
== Defnydd ==
Gall cefalexin drin heintiau bacteriol, gan gynnwys rhai'r [[Y glust ganol|glust ganol]], yr [[Asgwrn|esgyrn]] a'r [[Cymal (anatomeg)|cymalau]], y [[croen]] a'r [[System wrin|llwybr wrinol]]. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer rhai mathau o [[niwmonia]], llid y [[ffaryncs]], ac i atal endocarditis bacteriol. Nid yw cefalexin yn effeithiol yn erbyn heintiau a achosir gan [[Staphylococcus aureus ymwrthiol i fethisilin]] (MRSA), Enterococcus, neu Pseudomonas.  Fel gwrthfiotigau eraill, ni all cefalexin drin heintiau firaol, fel y [[Y ffliw|ffliw]], [[Broncitis acíwt|broncitis]] nac [[Annwyd|annwyd cyffredin]]. Gall y rhai sydd ag [[alergedd]] ysgafn neu gymedrol i [[Penisilin|benisilin]] defnyddio cefalexin ond nid yw'n cael ei argymell yn y rhai sydd ag alergedd difrifol.<ref>[https://www.medicines.org.uk/emc/product/554/smpc Medicines ''Cefalexin 500mg Capsules''] adalwyd 27 Chwefror 2018</ref>
 
== Sgil effeithiau ==
Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys poen bôl a'r [[dolur rhydd]]. Mae adweithiau alergaidd neu gael heintiau â [[Clostridium difficile|Chlostridium difficile]], sy'n achosi dolur rhydd, hefyd yn bosibl. Nid yw'n ymddangos bod y defnydd yn ystod [[beichiogrwydd]] neu [[Bwydo ar y fron|fwydo ar y fron]] yn niweidiol i'r babi. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer plant<ref>[https://www.medicinesforchildren.org.uk/cefalexin-bacterial-infections-0 Medicines for children ''Cefalexin for bacterial infections''] adalwyd 27 Chwefror 2018</ref> a'r rhai dros 65 oed. Efallai y bydd angen  gostyngiad yn y dos mewn cleifion sydd â phroblemau [[aren]]nau.
 
== Hanes ==
Datblygwyd ceffalecsin ym 1967. Mae ar [[Rhestr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd|Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd]], y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
 
== Defnydd meddygol ==
Llinell 8 ⟶ 20:
 
== Enwau ==
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur henhwn yw Ceffalecsin, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
{{wikidata|aliases|format=<li>%a</li>}}
 
Llinell 16 ⟶ 28:
{{cyngor meddygol}}
 
 
[[Categori:Cyffuriau]]
[[Categori:Erthyglau Bot Wici-Iechyd]]
[[Categori:Prosiect Wici-Iechyd]]
[[Categori:Gwrthfiotig]]
[[Categori:CyffuriauIechyd]]
[[Categori:Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd]]