Ieithoedd Brythonaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 10:
 
==Nodweddion ieithyddol==
Gan nad oedd y Frythoneg yn iaith ysgrifenedig tystiolaeth anuniongyrchol yn unig sydd i'w gramadeg a'i geirfa. <ref>Yn ystod y [[19eg ganrif]] ail-ddechreuwyd astudio hanes datblygiad ieithoedd a'r perthynasberthynas rhyngddynt. Defnyddiwyd y dystiolaeth ysgrifenedig oedd ar gael a'i gymharu ag ieithoedd eraill yn dyddio o'r un adeg hanesyddol a dilyn hynt iaith ar hyd yr oesau. O ddeall patrymau newid ieithyddol mae modd ail-lunio ieithoedd diflanedig. Technegau [[ieitheg gymharol]], yn adeiladu ar dystiolaeth enwau lleoedd a phobl Brythonig ac ambell i enw cyffredin a gofnodwyd yn Lladin neu yng Ngroeg, sydd wedi galluogi ieithyddion i ddirnad peth o eirfa a gramadeg y Frythoneg.</ref> Yn fras mae ieithyddion wedi dyfalu bod saith o [[cyflwr gramadegol|gyflyrau]] ar enwau ac ansoddeiriau'r Frythoneg, gan gynnwys y cyflyrau enwol, gwrthrychol, genidol, derbyniol, cyfarchol. Roedd y cyflyrau niferus hyn yn nodweddu [[ieithoedd Indo-Ewropaidd Gorllewinol]] yr adeg honno. Roedd gan enwau yn y Frythoneg ffurfiau unigol, deuol a lluosog. Roedd cenedl enw Brythoneg yn wrywaidd, benywaidd neu'n ddiryw. <ref name=DatblygiadyrIaithGymraeg> Henry Lewis, ''Datblygiad yr Iaith Gymraeg'' (Prifysgol Cymru, 1931) </ref>
 
==Dylanwad y Rhufeiniaid==