Mary Gawthorpe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Mary Gawthorpe"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:22, 10 Mawrth 2018

Roedd Mary Eleanor Gawthorpe (12 Ionawr 1881-12 Mawrth 1973)[1] yn swffraget, sosialydd, undebwr llafur a golygydd.[2]

Mary Gawthorpe

Yn 1905 ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched. Yn 1906, stopiodd ddysgu a daeth i weithio'n llawn amser fel trefnydd ar gyfer yr Undeb yn Leeds. Daeth Sylvia Pankhurst i Leicster yn 1907 ac ymuno â Alice Hawkins a gyflwynodd y naill i'r llall gan sefydlu presenoldeb yr Undeb yn Leeds.[3]

Yn ddiweddarach ymunodd â Christabel Pankhurst yng Nghymru, lle'r oedd ei chefndir dosbarth gweithiol a'i chysylltiad â'r symudiad llafur o fudd iddi. Mewn cyfarfod yng Nghymru, a drefnwyd gan Samuel Evans oedd yn sefyll etholaeth fel cynrychiolydd Cymraeg yn y Llywodraeth, cwestiynodd Gawthorpe ef yn dwll mewn Cymraeg perffaith.[4] 

Yn ogystal a chael ei charcharu sawl gwaith dros ei gweithgareddau gwleidyddol, cafodd Gawthorpe hefyd ei churo'n ddrwg, gan ddioddef anafiadau difrifol am heclo Winston Churchill yn 1909.[5]

References

  1. "Guide to the Mary E. Gawthorpe Papers TAM.275". dlib.nyu.edu. Cyrchwyd 8 January 2018.
  2. "Oxford Dictionary of National Biography". Cyrchwyd 2008-03-16.
  3. Elizabeth Crawford (2 September 2003). The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866-1928. Routledge. tt. 281–. ISBN 1-135-43402-6.
  4. "The Woman's Tribune: Correspondences"". 1906.
  5. "Spartacus Educational". Cyrchwyd 16 March 2008.