Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Amy Dillwyn"

Ychwanegwyd 109 beit ,  2 flynedd yn ôl
etifeddi dyled
(dileu'r ail ddelwedd ddiangen)
(etifeddi dyled)
Roedd '''Elizabeth Amy Dillwyn''' ([[16 Mai]] [[1845]] - [[13 Rhagfyr]] [[1935]]) yn [[nofelydd]], yn gymwynaswraig ac yn wraig fusnes, o [[Abertawe]].
 
Fe'i ganed yn Sketty, yn ferch i [[Lewis Llewelyn Dillwyn]] ac Elizabeth (née De la Beche). Roedd ei thad yn ŵr amlwg yn natblygiad diwydiannol ardal Abertawe a bu'n aelod seneddol Rhyddfrydol dros Abertawe rhwng 1855 a 1892. Bu farw dyweddi Amy Dillwyn, LLewellyn Thomas o Lwynmadog, yn ddisymwyth cyn eu priodas ym 1864. Bu farw ei mam ym 1866 ac ar ôl marwolaeth ei brawd ym 1890 a'i thad ym 1892, etifeddodd hi weithfeydd ei thad. Ymgymrodd â'r gwaith o reoli'r gweithfeydd ei hun ac felly daeth yn adnabyddus fel arloeswraig ym myd busnes a diwydiant.Gadawodd ei thad ddyled a fuasau yn cyfateb i £8m yng ngwerthoedd heddiw..Serch hynny arbedodd 300 o swyddi.
 
Roedd Amy Dillwyn yn gymeriad lliwgar ac fe ddaeth hi'n adnabyddus am ei barn di-flewyn-ar-dafod, ei gwisg ecsentrig a'i hoffter o ysmygu sigârs. Rhwng 1880 ac 1892, cyhoeddodd Amy Dillwyn chwe nofel ac mae pob un yn ymdrin â safle menywod yn y gymdeithas Fictorianaidd. Etholwyd hi yn llywydd cangen Abertawe o'r [[:en:National Union of Women's Suffrage Societies|NUWSS]].
3,441

golygiad