Ail Ryfel y Boer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Gwaethygodd y berthynas rhwng y ddwy ochr, ac ar [[8 Medi]] [[1899]] gyrrodd y Prydeinwyr 10,000 o filwyr i [[Natal]], ac ar [[22 Medi]] 47,000 arall. Mynnodd y ''Volksraad'', senedd y weriniaeth, fod y milwyr hyn yn cael eu tynnu'n ôl o'r ffîn, a phan wrthododd yr ymerodraeth, dechreuodd y rhyfel ar [[12 Hydref]].
 
Oherwydd y gwahaniaeth mawr yn adnoddau'r ddwy ochr, a'r ffaith mai ffermwyr yn hytrach na milwyr proffesiynol oedd y rhan fwyaf o ymladdwyr y Boeriaid, disgwyliai'r Prydeinwyr y byddai'r rhyfel drosodd mewn ychydig fisoedd, ond enillodd y Boeriaid nifer o fuddugoliaethau. Mewn un wythnos, enillasant frwydrau yn Stormberg ([[10 Rhagfyr]]), [[Magersfontein]] ([[11 Rhagfyr]]) a Colenso y Natal ([[15 Rhagfyr]]).
 
Ar [[14 Chwefror]] [[1900]], gyrraedd nifer fawr o filwyr Prydeinig ychwanegol dan [[Frederick Roberts|yr Arglwydd Roberts]]. Cipiodd ef [[Bloemfontein]] ar [[13 Mawrth]] a [[Pretoria]] ar [[5 Mehefin]]. Er hyn, parhaodd y Boeriaid i ymladd rhyfel gerila am ddwy flynedd arall, dan [[Christiaan de Wet]], [[Jan Smuts]], [[Louis Botha]] ac eraill. Ymatebodd y Prydeinwyr dan [[yr Arglwydd Kitchener]] trwy losgi ffermydd i atal yr ymladdwyr Boeraidd rhag cael bwyd, a symud y gwragedd a'r plant i wersylloedd. Ystyrir y rhain fel y [[gwersylloedd cadw]] cyntaf.