Ail Ryfel y Boer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Oherwydd y gwahaniaeth mawr yn adnoddau'r ddwy ochr, a'r ffaith mai ffermwyr yn hytrach na milwyr proffesiynol oedd y rhan fwyaf o ymladdwyr y Boeriaid, disgwyliai'r Prydeinwyr y byddai'r rhyfel drosodd mewn ychydig fisoedd, ond enillodd y Boeriaid nifer o fuddugoliaethau. Mewn un wythnos, enillasant frwydrau yn Stormberg ([[10 Rhagfyr]]), [[Magersfontein]] ([[11 Rhagfyr]]) a Colenso y Natal ([[15 Rhagfyr]]).
 
Ar [[14 Chwefror]] [[1900]], gyrraeddcyrhaeddodd nifer fawr o filwyr Prydeinig ychwanegol dan [[Frederick Roberts|yr Arglwydd Roberts]]. Cipiodd ef [[Bloemfontein]] ar [[13 Mawrth]] a [[Pretoria]] ar [[5 Mehefin]]. Er hyn, parhaodd y Boeriaid i ymladd rhyfel gerila am ddwy flynedd arall, dan [[Christiaan de Wet]], [[Jan Smuts]], [[Louis Botha]] ac eraill. Ymatebodd y Prydeinwyr dan [[yr Arglwydd Kitchener]] trwy losgi ffermydd i atal yr ymladdwyr Boeraidd rhag cael bwyd, a symud y gwragedd a'r plant i wersylloedd. Ystyrir y rhain fel y [[gwersylloedd cadw]] cyntaf.
 
Daeth y rhyfel i ben pan arwyddwyd Cytundeb Vereeniging ym mis Mai [[1902]]. Bu farw tua 22,000 o filwyr Prydeinig yn y brwydro ac o afiechydon. Lladdwyd tua 7,000 o'r ymladdwyr Boeraidd, ond bu farw tua 28,000 o'r gwragedd a'u plant yn y gwersylloedd cadw. Bu farw tua 14,000 o'r boblogaeth frodorol. Ymgorfforwyd y gweriniaethau Boeraidd yn yr Ymerodraeth Brydeinig, ac yn ddiweddarach daethant yn rhan o Dde Affrica.