Ail Ryfel y Boer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ymladdwyd '''Ail Ryfel y Boer''' ([[Saesneg]]: ''Second Boer War'', [[Afrikaans]]: ''Boereoorlog'' neu ''Tweede Vryheidsoorlog'') rhwng [[11 Hydref]] [[1899]] a [[31 Mai]] [[1902]] yn [[De Affrica|Ne Affrica]], rhwng yr [[Ymerodraeth Brydeinig]] a gweriniaethau y [[Boer]]iaid, [[Y Weriniaeth Rydd Oren]] a [[Gweriniaeth y Transvaal]], gweriniaethau oedd wedi eu sefydlu gan y [[Voortrekkers]]. Mae cyfeiriad ar '''Ryfel y Boer''' neu '''Ryfel De Affrica''' fel rheol yn cyfeirio ar y rhyfel hwn.
 
Yn [[1885]], cafwyd hyd i [[aur]] yn y [[Witwatersrand]] yn y Transvaal. O ganlyniad, symudodd nifer fawr o dramorwyr (''uitlanders'') i mewn i'r Transvaal, y rhan fwyaf ohonynt yn Brydeinwyr. Gwaethygodd y berthynas rhwng y rhain a llywodraeth y Transvaal, ac yn [[1896]] gyrrodd [[Cecil Rhodes]] garfan answyddogol o filwyr ar ymgyrch i'r Transvaal, y ''Jameson Raid''. Y gobaith oedd y byddai'r mewnfudwyr Prydeinig o gwmpas [[Johannesburg]] yn eieu cynorthwyo i gipio grym, ond methiant fu'r ymgyrch.
 
Gwaethygodd y berthynas rhwng y ddwy ochr, ac ar [[8 Medi]] [[1899]] gyrrodd y Prydeinwyr 10,000 o filwyr i [[Natal]], ac ar [[22 Medi]] 47,000 arall. Mynnodd y ''Volksraad'', senedd y weriniaeth, fod y milwyr hyn yn cael eu tynnu'n ôl o'r ffîn, a phan wrthododd yr ymerodraeth, dechreuodd y rhyfel ar [[12 Hydref]].