Prifysgol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Y Dyfodol: tacluso (mae hyn allan o ddyddiad hefyd...)
Llinell 35:
== Newid a Newid Eto ==
 
Er hynny, byrhoedlog fu unrhyw obaith bod y Brifysgol ar drothwy cyfnod o sefydlogrwydd lle y gallai’r canol ffederal cyfnerthedig chwarae rhan amlycach ym materion y Brifysgol. Bu newidiadau mawr yn strwythur addysg uwch o dan [[Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992|Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992]], y penderfyniad cysylltiedig i sefydlu [[Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru]] ym mis [[Ebrill]] [[1993]], a thystiolaeth gynyddol o bwysau mewnol yn erbyn yr hyn a welid fel symud yr awdurdod dros gynllunio oddi wrth y sefydliadau cyfansoddol tuag at y canol ffederal oll yn sbardun ar gyfer gwneud adolygiad cynnar o ddiwygiadau [[1989]], a hynny ar fyrder. Sefydlwyd Gweithgor arall gan y Brifysgol o dan gadeiryddiaeth Syr [[Syr Melvyn Rosser]], [[Llywydd]] CPC [[Aberystwyth]], i edrych ar swyddogaeth y Brifysgol yn system addysg uwch newydd Cymru, ac i adolygu strwythur gweinyddol mewnol y Brifysgol.
 
Mabwysiadwyd Adroddiad Rosser a’i argymhellion gan Lys y Brifysgol ym mis Gorffennaf [[1993]], a nodweddion allweddol y system lywodraethu newydd a ddaeth i rym ym mis Ionawr 1995 oedd: Datganiad Cenhadaeth ar gyfer y Brifysgol, o’i chyferbynnu â’r sefydliadau cyfansoddol unigol; corff newydd a dylanwadol, [[Bwrdd yr Is-Gangellorion]], y mae ei graidd yn cynnwys Is-Gangellorion y chwe sefydliad cyfansoddol; lleihau maint Cyngor y Brifysgol, ond gan gadw cyfran yr aelodau lleyg; teitl newydd o Is-Ganghellor Hþn i’r prif swyddog academaidd a gweithredol, a etholir erbyn hyn gan y Brifysgol; swydd newydd Ysgrifennydd Cyffredinol, y mae ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau fel prif swyddog gweinyddol y Brifysgol yn cynnwys swyddogaethau cyn-swydd Cofrestrydd y Brifysgol; ac addasiadau yn swyddogaeth y Trysorydd, y mae ei gyfrifoldebau neu ei chyfrifoldebau bellach yn ymwneud â chronfeydd y Brifysgol ffederal yn unig. Yn sgil y newidiadau hyn, cafodd y JPRC a swydd yr [[Is-Ddirprwy Ganghellor]] eu dirwyn i ben.
 
Cafwyd pennod newydd yng nghyd-berthnasoedd y Brifysgol ffederal pan roddwyd Adroddiad Rosser ar waith, yn bennaf oherwydd bod Bwrdd yr Is-Gangellorion wedi dod i’r amlwg fel corff cynghorol allweddol. Mae y ‘llinell ddeuol’ a chreu’r prifysgolion newydd er 1992 wedi creu heriau newydd i’r hen brifysgolion mwy traddodiadol yn y DU, ac felly hefyd polisïau a gweithdrefnau newydd y llywodraeth ar gyfer ariannu. Mae Prifysgol Cymru wedi ceisio ymateb yn gyflym ac effeithiol drwy sicrhau a gwella sefyllfa’r gwasanaethau canolog y mae’n eu trefnu - megis ei chanolfan breswyl yng Ngregynog yng nghanolbarth Cymru, [[Gwasg Prifysgol Cymru]], a’i sefydliad ymchwil llwyddiannus iawn ar gyfera’r [[Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd]] yn [[Aberystwyth]].
 
== Y Dyfodol ==