Neturei Karta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:Orthodox Jews protest against Israel.jpg|250px|bawd|Grŵp o Iddewon Neturei Karta yn protestio yn erbyn [[Seionaeth]] a thros ryddid i'r [[Palesteiniaid]], yn [[Jeriwsalem]], 2005.]]
[[Delwedd:Moshehirchandarafat.JPG|250px|bawd|Y Rabbi Moshe Hirsch gyda [[Yasser Arafat]].]]
Enwad o [[Iddewiaeth|Iddewon]] tra-uniongred (''[[haredim]]'') sy'n gwrthod [[Seioniaeth]] yw'r '''Neturei Karta''' ([[Aramaeg]] נטורי קרתא ; "Ceidwaid y Ddinas"). Maent yn gwrthod derbyn na chydnabod bodolaeth [[Israel|Gwladwriaeth Israel]]. Fe'i sefydlwyd yn [[Jeriwsalem]], eu prif ganolfan. Mae'r Neturei Karta yn Israel ei hun yn gwrthod pleidleisio yn etholiadau'r wlad.
 
== Dysgeidiaeth ==
Gellir crynhoi dysgeidiaeth ymarferol yr enwad fel a ganlyn<ref>[[http://netureikarta.unblog.fr/ Dysgeidiaeth]</ref>:
 
* Mae Neturei Karta yn gwrthwynebu bodolaeth yr hyn a alwent yn "Wladwriaeth ''honedig'' Israel".
* Gwrthwynebant Wladwriaeth Israel ddim am ei bod yn wladwriaeth seciwlar ond am eu bod yn credu fod hyd yn oed y cysyniad o wladwriaeth Iddewig yn groes i Ddeddf [[Duw]].
* Credant na ddylai'r [[Iddewon]] ormesu, lladd, brifo na achosi unrhyw niwed arall o gwbl i bobl eraill ac felly na ddylent gael unrhyw beth o gwbl i wneud â'r "brosiect Seionaidd" yn cynnwys ei weithgareddau gwleidyddol a'i rhyfeloedd.
* Credant fod y gwir Iddewon wedi aros yn driw i'r Ffydd Iddewig ac yn gwrthod "halogi" eu hunain trwy ymwneud â Seioniaeth.
* Mae'r gwir Iddewon yn erbyn dadfeddianu'r [[Palesteiniaid]] a'r [[Arabiaid]] o'u tir a'u cartrefi (fel a ddigwyddodd i sefydlu Gwladwriaeth Israel ac ers hynny hefyd). Yn ôl y ''[[Torah]]'', llyfr sanctaidd yr Iddewon, dylai'r tir hwnnw gael ei roi yn ôl iddynt.
* Credant ei bod yn ddyletswydd crefyddol a moesol arnynt i adael i'r byd wybod fod y Seioniaid wedi dwyn enw Israel mewn modd anghyfreithlon ac nad oes ganddynt unrhyw hawl o gwbl i siarad yn enw'r Iddewon.
* Credant fod yr [[Teyrnas Israel|Israel hynafol]] wedi'i dinistrio trwy ewyllys Duw ac mai dim ond y [[meseia]] sy'n gallu ei hadfer. Felly mae pob ymgais dynol i greu gwladwriaeth Iddewig cyn hynny yn drosedd yn erbyn ewyllys Duw.
 
==Gwleidyddiaeth==
Bu'r rabbi [[Moshe Hirsch]], Iddew o [[Efrog Newydd]] ac un o wyrion sefydlydd y Neturei Karta, yn Weinidog Materion Iddewig yn [[Awdurdod Cenedlaethol Palesteina|llywodraeth]] [[Yasser Arafat]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
== Dolenni allanol ==
* {{eicon fr}} [http://www.nkusa.org/Foreign_Language/French/pamphlet3French.cfm Rhaglen wleidyddol y 'Neturei Karta']
* {{eicon en}} [http://www.nkusa.org Gwefan swyddogol y 'Neturei Karta']
* {{eicon fr}} [http://netureikarta.unblog.fr/ Gwefan am yr enwad]
 
[[Categori:Crefydd ym Mhalesteina]]