Owain Lawgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 75:
Tra'r oedd Owain yn gwarchae ar Mortagne, cyrhaeddodd gŵr o'r enw [[John Lamb]] yno. Roedd wedi cyrraedd Llydaw, gan ddweud ei fod wedi dod o Gymru gyda neges i Owain, a hebryngwyd ef i Mortagne. Mewn gwirionedd, roedd yn asiant cudd yn nhâl y Saeson. Dywed rhai cofnodion mai Albanwr ydoedd, ond dywed Froissart iddo siarad "yn ei iaith ei hun" ag Owain, h.y. ymddengys fod y ddau'n siarad Cymraeg.
 
Enillodd ymddiriedaeth Owain, a'i gwnaeth yn siambrlen iddo. Ymddengys ei fod yn arferiad gan Owain gribo'i wallt yn y bore dan edrych ar gastell Mortagne. Un bore, roedd wedi gyrru Lamb i gyrchu ei grib gwallt, a phan ddychwelodd Lamb, trywanodd Owain, nad oedd yn gwisgo llurig ar y pryd. Ffôdd Lamb i gastell Mortagne, lle mynegodd ceidwad y castell, y Syndic de Latrau, ei ddirmyg o'i weithred:

: ''A, felly, yr wyt wedi ei lofruddio; oni bai fod y weithred hon mor fanteisiol i ni, byddet yn colli dy ben; ond ni ellir dadwneud yr hyn sydd wedi ei wneud. Ond y mae'n beth difrifol fod y gŵr bonheddig hwnnw wedi cael ei ladd yn y fath fodd; fe gawn ni fwy o fai na chlod o'r herwydd.'' <ref>Cyfeithiad o Froissart gan A>D. Carr; Carr ''CymruOwain a'rLawgoch:yr Rhyfeletifedd Canmlyneddolaf'' t. 20-2117</ref>

Claddwyd Owain yn eglwys Saint-Léger yn Mortagne; yn anffodus cafodd yr eglwys honno ei dymchwel yn [[1884]] ac nid oes unrhyw olion o'i fedd i'w gweld heddiw. Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Mortagne ym mis Awst, [[2003]].
 
Ceir cofnod yn ''Issue Roll'' Trysorlys Lloegr, wedi ei ddyddio [[4 Rhagfyr]] 1378: