Owain Lawgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 30:
===Ymgyrchoedd cynnar===
 
[[Delwedd:Jean Fouquet - Remise de l'épée de connetable à Bertrand Duguesclin - Enluminure (XVe siècle).jpg|bawd|chwith|220px210px|Y brenin Siarl V yn cyflwyno cleddyf Cwnstabl Ffrainc i Bertrand du Guesclin, [[2 Hydref]] [[1369]].]]
 
Nid oes sicrwydd pa bryd y daeth Owain i wasanaeth brenin Ffrainc. Dywed John Davies ei fod eisoes yn ei wasanaeth erbyn tua [[1350]], a dywed [[Jean Froissart|Froissart]] ei fod wedi ymladd ar ochr Ffrainc ym [[Brwydr Poitiers (1356)|Mrwydr Poitiers]] yn [[1356]], ond yn ôl A.D. Carr nid oes sicrwydd ei fod yng ngwasanaeth Ffrainc hyd 1369. Pan fu farw ei dad yn 1363, roedd Owain dramor, yn Ffrainc yn ôl pob tebyg. Dychwelodd i Loegr i hawlio ei etifeddiaeth yn [[1365]]; gallai wneud hynny'n ddiogel ar y pryd hyd yn oed os oedd yng ngwasanaeth brenin Ffrainc, oherwydd ei fod yn gyfnod o heddwch. Dychwelodd i Ffrainc yn [[1366]], ac wedi i'r rhyfel ail-ddechrau yn 1369, fforffedodd ei diroedd yng Nghymru a Lloegr.<ref>Carr ''Cymru a'r Rhyfel Canmlynedd'' tt. 18-9</ref>
Llinell 38:
Yn [[1369]], disgrifia [[Christine de Pisan]] Owain, a ddisgrifir ganddi fel gwir etifedd Tywysog Cymru, yn ymladd ar ochr Ffrainc. Gydag ef roedd Ieuan Wyn, oedd yn berthynas iddo meddai Christine, a nifer o Gymru eraill. Dywed A,D. Carr ei bod yn amlwg fod Christine yn adnabod Owain a Ieuan yn bersonol, ac yn eu hedmygu. <ref>Carr ''Owen of Wales'' t. 22</ref>
 
[[Delwedd:Les Très Riches Heures du duc de Berry septembre.jpg|bawd|190px|Castell [[Saumur]], a fu yng ngofal Owain yn 1370.]]
Cafodd Owain gymorth Siarl V yn ei ymdrechion i hawlio coron Cymru. Gwnaeth ei ymdrech gyntaf yn niwedd [[1369]], pan dalodd Siarl i gasglu llynges yn [[Harfleur]] i hwylio am Gymru gan arweiniad Owain. Hwyliodd y llongau ychydig cyn y Nadolig, ond gorfodwyd hwy i ddychwelyd i'r porthladd oherwydd stormydd. Yn [[1370]] roedd Owain yn gwasanaethu gyda [[Bertrand du Guesclin]] yn [[Maine]] ac [[Anjou]], ac yn [[1371]] roedd ef a'i gwmni yng ngwasanaeth tref [[Metz]].
 
Cafodd Owain gymorth Siarl V yn ei ymdrechion i hawlio coron Cymru. Gwnaeth ei ymdrech gyntaf yn niwedd [[1369]], pan dalodd Siarl i gasglu llynges yn [[Harfleur]] i hwylio am Gymru gan arweiniad Owain. Hwyliodd y llongau ychydig cyn y Nadolig, ond gorfodwyd hwy i ddychwelyd i'r porthladd oherwydd stormydd. Yn [[1370]] roedd Owain yn gwasanaethu gyda [[Bertrand du Guesclin]] yn [[Maine]] ac [[Anjou]], ac yn [[1371]] roedd ef a'i gwmni yng ngwasanaeth tref [[Metz]].
 
Yn [[1370]] roedd Owain yn gwasanaethu gyda [[Bertrand du Guesclin]] yn [[Maine]] ac [[Anjou]], ac yn geidwad castell [[Saumur]] ar [[afon Loire]]. Yn mis Gorffennaf [[1371]] roedd ef a'i gwmni yng ngwasanaeth tref [[Metz]], ac ym mis Rhagfyr cofnodir eu bod yn symud trwy ran ogleddol [[Bwrgwyn]].<ref>Carr ''Owain Lawgoch:yr etifedd olaf'' t.8</ref>
 
Ym mis Mai [[1372]] cyhoeddodd yn ninas [[Paris]] ei fod yn hawlio coron Cymru. Cafodd fenthyg arian gan Siarl V, a hwyliodd i ymosod ar Frenin Lloegr. Ymosododd ar [[Ynys y Garn]] (Guernsey) i ddechrau, ac roedd yn dal yno pan gyrhaeddodd neges gan Siarl yn rhoi gorchymyn iddo roi'r gorau i'r ymgyrch a hwylio i [[Teyrnas Castilla|Castile]] i gasglu mwy o longau er mwyn ymosod ar y Saeson yn [[La Rochelle]]. Ym [[Brwydr La Rochelle|Mrwydr La Rochelle]], cafodd y llynges Sbaenig a Ffrengig fuddugoliaeth dros y llynges Seisnig. Yn fuan wedyn, gorchfygodd Owain fyddin o Saeson a Gascwyniaid yn Soubise, gan gymeryd Syr Thomas Percy a [[Jean III de Grailly|Jean de Grailly]], y Captal de Buch, yn garcharorion.<ref>Carr ''Owen of Wales'' tt. 35-6</ref> Ildiodd garsiwn Seisnig La Rochelle yn gynnar ym mis Medi; dywed un cronicl iddynt wrthod ildio i Owain, a mynnu cael ildio i frodyr Siarl V, [[Louis I, Dug Anjou|Dug Anjou]] a Dug Berry.<ref>Carr ''Owen of Wales'' t. 37</ref>