Waldo Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
Edward Carpenter
Llinell 17:
Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]]. Rhyddhawyd ef yn ddiamod yn dilyn ei ddatganiad gerbron tribiwnlys yng Nghaerfyrddin, 12 Chwefror, 1942.<ref>Datganiad Waldo [[y Traethodydd]] hydref 1971.</ref>
 
Roedd yn teimlo mor gryf yn erbyn [[Rhyfel Corea]] nes iddo wrthod talu'r dreth incwm, ac fe'i carcharwyd am hynny ddechrau'r [[1960au]]. Roedd yn ymwybodol iawn o feirniadaeth [[Mohandas Gandhi]] ar y llenor [[Rabindranath Tagore]] pan ddywedodd wrth Tagore 'rhowch i ni weithredoedd nid geiriau.' Gofynwyd i Waldo a oedd wedi ystyried cyhoeddi ei gerddi. Dyma ei ateb i [[D.J. Williams]] "Roeddwn i'n teimlo y byddai eu cael gyda'i gilydd mewn llyfr yn ofnadwy, yn rhagrithiol ac yn annioddefol heb fy mod yn gwneud ymdrech i wneud rhywbeth heblaw canu am y peth hwn.<ref>Jâms Nicholas Darlith Goffa Lewis Valentine - Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru, 2000. Tud 12/13</ref><ref>[http://www.waldowilliams.com/?page_id=97 www.waldowilliams.com;] adalwyd 20 Mai 2015</ref> Dylanwadodd y bardd sosialaidd a'r athronydd [[Edward Carpenter]] arno ef a'i dad.
 
Safodd dros [[Plaid Cymru|Blaid Cymru]] yn Etholiad Cyffredinol [[1959]].