Owain Lawgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 116:
 
Ceir chwedl debyg o [[Sir Gaerfyrddin]], lle dywedir fod Owain a'i wŷr yn cysgu yn Ogo'r Ddinas, ychydig i'r gogledd o dref [[Llandybïe]].<ref> John Rhys ''Celtic Folklore: Welsh and Manx'' tt. 467-9</ref> Ar un adeg, gelwid llyn chwarel [[Aberllefenni]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yn Llyn Owain Lawgoch, ac mae hanesyn yn ei gysylltu a'r plasdy cyfagos, Plas Aberllefenni.<ref>Cofnodir yr hanes yn J.Arthur Williams ''Trem Yn Ol''</ref>
 
[[Delwedd:Castle Cornet Guernsey.jpg|bawd|200px|Caestell Cornet at Ynys y Garn; castell y bu Owain yn gwarchae arno]]
 
Ceir chwedloniaeth am Owain ar Ynys y Garn hefyd, lle cofir amdano fel ''Yvon de Galles''. Troes y côf amdano ef a'i wŷr yn chwedl am ymgyrch gan lu o [[Tylwyth Teg|dylwyth teg]], bychain ond golygus. Cafodd merch o'r enw Lizabeau hyd i frenin y tylwyth teg hyn wedi ei longddryllio ar draeth ar yr ynys. Wedi iddo ddeffro, syrthiodd brenin y tylwyth teg mewn cariad a hi, a chariodd hi dros y môr i fod yn frenhines iddo. Fodd bynnag, roedd y tylwyth teg eraill yn dymuno cael gwragedd hefyd, ac ymosodasant ar yr ynys. Lladdwyd pawb o wŷr yr ynys heblaw dau, a ymguddiodd mewn ogof, a phriododd y tylwyth teg a merched Ynys y Garn. Hyn, yn ôl y chwedl, sy'n gyfrifol am y ffaith fod trigolion Ynys y Garn yn fychan a bod ganddynt wallt tywyll.<ref>Marie de Garis ''Folklore of Guernsey'' (1986) ASIN: B0000EE6P8</ref>.
 
Cadwyd baled am Owain a'i wŷr o Ynys y Garn hefyd. Mae'r faled yn hollol anhanesyddol o ran y digwyddiadau a nodir, ond dywedir fod gan Owain wraig o'r enw Elinor. Mae hefyd yn rhoi eglurhad am yr enw "Lawgoch" trwy adrodd fod yn o wŷr Ynys y Garn wedi ei glwyfo yn ei law.
 
==Llyfryddiaeth==