Geg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Albanian dialects.svg|thumb|Tafodieithoedd Albaneg, Geg mewn gwyrdd]]
 
Tafodiaeth o'r iaith [[Albaneg]] yw '''Geg''' (Saesneg: ''Gheg'' yn Saesneg; Geg: ''gegnisht''; Alabaneg Safonol: ''gegë'' neu ''gegërishtja''). Siaredir hi yng ngogledd [[Albania]], [[Cosofo]], [[Gweriniaeth Macedonia]] a [[Montenegro]]. Yr afon Shkumbin yw ffin draddodiadol yr iaith. Y brif dafodiaeth arall yn yr iaith Albaneg, yw [[Tosc]] (''Tosk'') a siadedir i'r de o'r afon Shkumbin ac ar draws canol gwladwrieth Albania a nifer o chymunedau bychain Albaneg yn [[yr Eidal]] (yr Arbëresh) ac [[Arfanitiaid]] yng [[ng|gwlad Groeg]]. Mae'r ffin ieithyddol yma yn dilyn hen lwybr y ffordd Rufeinig, y Via Egnatia a ceir tiriogaeth traws-dafodiaethol naill ochr i'r afon oddeutu 10km - 20km mewn lled. Ceir gwahaniaethau o fewn y dafodiaeth Geg yn enwedig rhwng tafodieithoedd Gogledd-orllewin Albania a Cosofo. Mae'r sefyllfa yn Macedonia hefyd yn wahanol iawn i hynny yn Albania a Cosofo. Mae'r Gegeg a'r Tosceg yn amrywio'n ffonolegol ac yn ramadegol.
 
Roedd gwahaniaethau diwylliannol a chymdeithasol hefyd rhwng y Gegeg a'r Tosceg. Felly, trefnwyd y cyntaf mewn cymdeithasau llwythol (''fis'' yn Albaneg), a oedd yn eu tro yn cael eu grwpio yn deuluoedd estynedig (clan) ac felly dwyn ynghyd o dan gwahanol dirfeddianwyr. Roedd y gyfraith arferol yn fwy amlwg yn cymunedau Geg na Thosc. Cymerodd eu cyfriethiau cynhenid, y ''Kanun Lek Dukagjini'', mewn bywyd cymdeithasol lawer o bwys nag yn nhiroedd Tosc.