Tuduriaid Penmynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 2:
 
Roedd y teulu yn ddisgynyddion [[Ednyfed Fychan]] (bu farw [[1246]]), distain [[Llywelyn Fawr]] a'i fab [[Dafydd ap Llywelyn]]. Roedd Ednyfed Fychan ei hun yn ddisgynnydd o [[Marchudd ap Cynan]]. Priododd Ednyfed a Gwenllian ferch Rhys, merch [[Rhys ap Gruffudd]] ("Yr Arglwydd Rhys").
 
Yn nechrau'r [[15fed ganrif]], roedd [[Rhys ap Tudur]], [[Gwilym ap Tudur]] a [[Maredudd ap Tudur]] yn bleidwyr blaenllaw i [[Owain Glyndŵr]]. Collodd y teulu y rhan fwyaf o'i diroedd o'r herwydd, er i gyfran gael eu dychwelyd i ddisgynyddion [[Goronwy ap Tudur]] (oedd wedi marw cyn dechrau gwrthryfel Glyndŵr) yn ddiweddarach.
 
Aeth mab Maredudd, Owain, i Lundain, lle newidiodd ei enw o Owain ap Maredudd i Owen Tudor. Syrthiodd gweddw [[Harri V, brenin Lloegr]] mewn cariad ag ef; mae'n debyg iddynt briodi, er nad oes prawf o hyn. Cawsant ddau fab, [[Edmwnd Tudur]] a [[Siasbar Tudur]]. Daeth mab Ednwnd, Harri Tudur, yn frenin Lloegr fel [[Harri VII, brenin Lloegr|Harri VII]].
 
Ymhlith aelodau'r teulu roedd: