Ganed Charles Roe yn [[Castleton]], [[Swydd Derby]], yr ieuengaf o wyth o blant y Parch Thomas Roe, [[ficer]] Castleton, a'i wraig Mary née Turner. Bu farw ei dad pan oedd yn wyth oed a symudodd y teulu i [[Stockport]], [[Swydd Gaer]]. Yn fuan wedi hynny bu farw ei fam hefyd aac aeth Charles i fyw gyda'i frodyr a'i chwiorydd yn Macclesfield. Yn ôl ''Dictionary of National Biography'', credir iddo gael ei addysg yn [[Ysgol Ramadeg Macclesfield]]. [1] Yn 1743-44, fe adeiladodd felin fwynio bach ar [[Park Green]] ac ym [[1748]], mewn partneriaeth â Glover & Co., felin fwy i gynhyrchu sidan ar [[Waters Green]]:. roeddRoedd y ddau yn seiliedig ar Lombe's Mill in [[Derby]]. Roe oedd [[Maer]] Macclesfield ym 1747-48.<ref name="dnb1">{{Citation | last = Smith| first = Dorothy Bentley| last2 = Woolrich | first2 =A. P.| title = Roe, Charles (1715–1781)| work = [[Oxford Dictionary of National Biography]] | publisher = [[Oxford University Press]] | origyear = 2004| year = 2010| url = http://www.oxforddnb.com/view/article/52384| accessdate = 5 July 2013 }} ({{ODNBsub}})</ref>.