Gorfodaeth filwrol yn y Deyrnas Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bu dau gyfnod o '''orfodaeth filwrol''' yn y Deyrnas Unedig yn yr ugeinfed ganrif. Y cyntaf oedd o 1916 i 1920 bu'r ail rhwng 1939 a...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
== Y Rhyfel Byd Cyntaf ==
Cychwynnodd gwasanaeth gorfodol yn ystod cyfnod y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf]] pan basiodd llywodraeth Prydain Deddf Gwasanaeth Milwrol 1916<ref>The Military Service Act 1916 - HL/PO/PU/1/1916/5&6G5c104</ref>. Nododd y ddeddf fod dynion sengl rhwng 18 a 40 oed yn caelagored i gael eu galw am wasanaeth milwrol oni bai eu bod yn dynion gweddw gyda phlant neu'n weinidogion crefyddol. Bu system o Dribiwnlysoedd Gwasanaeth Milwrol i ddyfarnu ar hawliadau am eithriad ar sail cyflawni gwaith sifil o bwysigrwydd cenedlaethol, caledi domestig, iechyd a gwrthwynebiad cydwybodol<ref>[http://www.parliament.uk/parliamentary_publications_and_archives/parliamentary_archives/archives____ww1_conscription.cfm CALLED TO ACTIVE SERVICE] adalwyd 16 Mawrth 2018</ref>. Aeth y gyfraith trwy nifer o newidiadau cyn i'r rhyfel ddod i ben. Roedd dynion priod wedi'u heithrio yn y Ddeddf wreiddiol, er y cafodd hyn ei newid ym mis Mehefin 1916. Codwyd y terfyn oedran yn y pen draw i 51 oed. Cafodd cydnabyddiaeth o waith o bwysigrwydd cenedlaethol ei dynhau, ac yn ystod blwyddyn olaf y rhyfel bu rhywfaint o gefnogaeth i'r syniad o beidio ag eithrio clerigwyr<ref>Chelmsford, J. E. "Clergy and Man-Power", ''[[The Times]]'' 15 Ebrill 1918, tud. 12</ref>. Parhaodd gorfodaeth filwrol hyd ganol 1919.
 
Oherwydd y sefyllfa wleidyddol yn [[Iwerddon]], ni chafodd gorfodaeth ei ddefnyddio yno; dim ond yng [[Cymru|Nghymru]], [[Lloegr]] a'r [[Yr Alban|Alban]].
 
== Yr Ail Ryfel Byd ==
[[File:Are You with Us in National Service? Art.IWMPST13964.jpg|thumb|260px|Poster o'r Ail Ryfel Byd]]
Daeth ddeddfwriaeth gorfodaeth filwrol y Rhyfel Byd Cyntaf i ben ym 1920. O ganlyniad i sefyllfa ryngwladol a oedd yn dirywio a chynnydd [[yr Almaen Natsïaidd]], perswadiodd [[Leslie Hore-Belisha]], yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel, cabinet [[Neville Chamberlain]] i gyflwyno ffurf gyfyngedig o orfodaeth filwrol ar [[27 Ebrill]] [[1939]], gyda'r ''Ddeddf Hyfforddi Filwrol'' yn cael ei basio'r mis canlynol<ref>[http://www.bbc.co.uk/history/british/britain_wwtwo/ff1_conscription.shtml BBC History ''Conscription Introduced''] adalwyd 16 Mawrth 2018</ref>.
 
Dim ond dynion sengl rhwng 20 a 22 oed oedd yn agored i gael eu galw, ac roeddent yn cael eu galw'n "dynion milisia" i'w gwahaniaethu o'r fyddin reolaidd. Er mwyn pwysleisio'r gwahaniaeth hwn, rhoddwyd siwt i bob dyn yn ogystal ag arfwisg. Y bwriad oedd i'r gorfodogion cael chwe mis o hyfforddiant sylfaenol cyn eu rhyddhau i mewn i'r fyddin wrthgefn. Yna byddant yn cael eu galw'n ôl am gyfnodau hyfforddi byr ac yn mynychu gwersylloedd blynyddol.
Llinell 25:
* Merched priod
* Merched oedd ag un neu ragor o blant 14 oed neu'n iau yn byw gyda nhw. Roedd hyn yn cynnwys eu plant eu hunain, plant cyfreithlon neu anghyfreithlon, plant maeth a phlant mabwysiedig, cyhyd â bod y plentyn wedi'i fabwysiadu cyn 18 Rhagfyr 1941.
Ni chafodd merched [[Beichiogrwydd|beichiog]] eu heithrio, ond yn ymarferol ni chawsant eu galw i fyny<ref>{{Cite web|url=http://spartacus-educational.com/2WWconscription.htm|title=Conscription|last=Simkin|first=John|date=August 2014|website=Spartacus Educational|publisher=|access-date=}}</ref>.
 
Yn wreiddiol, nid oedd dynion dan 20 oed yn cael eu hanfon dramor, ond codwyd yr eithriad hwn ym 1942. Os oedd dyn yn cael ei alw i wasanaethu cyn ei fod yn 51 mlwydd oed ac yn cyrraedd 51 yn ystod cyfnod ei wasanaeth roedd rhaid iddo barhau i wasanaethu hyd ddiwedd y rhyfel.
Llinell 34:
 
== Wedi 1945 ==
[[Delwedd:National Service memorial.jpg|thumb|right|upright|Cofeb Gwasanaeth Cenedlaethol (1939–1960) yn yr Arboretum Coffa Genedlaethol]]
Lluniwyd Gwasanaeth Cenedlaethol, gwasanaeth milwrol gorfodol wedi'r rhyfel gan ''Ddeddf Gwasanaeth Cenedlaethol 1948''. O 1 Ionawr 1949, disgwyliwyd i ddynion iach 17 i 21 oed wasanaethu yn y lluoedd arfog am gyfnod o 18 mis, ac aros ar restr o filwyr wrth gefn am bedair blynedd. Gellid eu galw'n ôl i'w catrawd am hyd at 20 diwrnod ar ddim mwy na thri achlysur yn ystod y pedair blynedd hynny. Roedd dynion yn cael eu heithrio o Wasanaeth Cenedlaethol pe baent yn gweithio mewn un o'r tri "gwasanaeth hanfodol": [[Mwynglawdd|mwyngloddio glo]], [[ffermio]] a'r llynges fasnachol am gyfnod o wyth mlynedd. Pe baent yn rhoi'r gorau i'r gwaith yn gynnar, roeddent yn ddarostyngedig i gael eu galw i'r lluoedd. Parhaodd yr eithriadau i wrthwynebwyr cydwybodol, gyda'r un system a'r categorïau tribiwnlys a bodolai yn ystod yr ail ryfel byd<ref>[http://www.bbc.co.uk/history/british/modern/peacetime_conscripts_01.shtml BBC History ''The Peacetime Conscripts: National Service in the Post-war Years''] adalwyd 16 Mawrth 2018</ref>.
 
Ym mis Hydref 1950, mewn ymateb i ran Prydain yn [[Rhyfel Corea]], estynnwyd cyfnod y gwasanaeth i ddwy flynedd a gostyngwyd y cyfnod wrth gefn i 3 mlynedd 6 mis. Roedd modd comisiynu milwyr Gwasanaeth Cenedlaethol a oedd yn dangos addewid yn swyddogion. Defnyddiwyd milwyr Gwasanaeth Cenedlaethol mewn ymgyrchoedd arfog gan gynnwys Argyfwng [[Maleisia]], Argyfwng [[Cyprus]], yn [[Kenya]] yn erbyn y [[Mau Mau]], Rhyfel Corea ac [[Argyfwng Suez]].
Llinell 41 ⟶ 42:
 
Daeth Gwasanaeth Cenedlaethol i ben yn raddol o 1957. Penderfynwyd na fyddai raid i'r sawl a anwyd ar neu wedi 1 Hydref 1939 gwasanaethu. Roedd y sawl a anwyd cyn 1 hydref 1939 a chafodd ohiriad i'w gwasanaeth yn gorfod cyflawni eu dyletswydd. Ymunodd y rhai olaf i gael eu gorfodi a'r lluoedd ym mis Tachwedd 1960 ac fe ymadawodd y Gwasanaethwyr Cenedlaethol olaf a'r lluoedd ym mis Mai 1963.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}