Tudur ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Prin yw'r cofnodion penodol amdano. Cafodd ei eni tua'r flwyddyn 1357, dwy neu dair mlynedd ar ôl geni Glyndŵr ei hun, yn fab i [[Gruffudd Fychan]] (m. cyn [[1370]]) a'i wraig [[Elen ferch Tomas ap Llywelyn]]. Diau iddo gael ei fagu ar aelwyd [[Sycharth]], [[maenordy]] y teulu.
 
Bu Tudur yn gydymaith agos i Glyndŵr o'r cychwyn cyntaf. Cofnodir iddo fynd i'r [[Alban]] gyda'i frawd a'r brudiwr [[Crach Ffinnant]] yn [[1384]] pan gawsant eu gwysio gan y brenin [[Rhisiart II o Loegr]] i wasanaethu gyda chatrawd o Gymry eraill yng ngarsiwn [[Berwick]]. Ymddengys ei fod yno tan [[1385]]. Ymhlith y milwyr yno oedd [[Henry Percy]], [[Iarll 1af Northumberland]], a'i fab [[Hotspur]]; dau ŵr a fyddai'n chwarae rhan bwysig yn nes ymlaen yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr. Roedd y brodyr gyda'i gilydd yng ngosgordd [[Iarll Arundel]] yn [[1387]] yn ogystal.
 
Mae'r ail gofnod amdano yn dweud ei fod wrth ochr Glyndŵr pan lawnsiwyd y gwrthryfel ar [[16 Medi]] [[1400]], yng [[Glyndyfrdwy|Nglyndyfrdwy]], [[Meirionnydd]], trwy gyhoeddi Glyndŵr yn [[Tywysog Cymru|Dywysog Cymru]]. Cyfeirir ato fel arglwydd [[Gwyddelwern]].