La traviata: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 45:
|bas
|}
 
== Trosolwg ==
 
=== Act 1 ===
Mae Violetta Valéry yn gwybod ei bod hi ar fin [[Marwolaeth|marw]], yn lluddedig wedi bywyd gwyllt y [[Puteindra|butain llys]]. Mewn parti mae hi'n cael ei chyflwyno i Alfredo Germont, gŵr sydd wedi dotio arni ers peth amser. Mae Alfredo wedi bod yn holi am ei iechyd pob dydd. Mae gwesteion y parti wedi eu difyrru gan ei ymddygiad emosiynol naïf ac yn gofyn iddo gynnig llwncdestun. Mae Alfredo yn codi ei wydr i wir [[Cariad|gariad]], ond mae Violetta yn ymateb trwy gynnig llwncdestun i gariad rhydd<ref>{{Cite web|url=https://www.metopera.org/Discover/Synopses/La-Traviata/|title=Synopsis: La Traviata|date=|access-date=|website=The Metropolitan Opera|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>.
 
Mae Violetta yn [[Llesmair|llesmeirio]] ac mae'r holl westai, ac eithrio Alfredo, yn ymadael. Mae Alfredo yn datgan ei gariad ond mae Violetta yn ymateb trwy ddatgan nad oes lle yn ei bywyd am y fath deimlad. Mae hi'n rhoi blodyn iddo, gan ofyn iddo ddychwelyd pan fydd y blodyn yn dechrau gwywo. Gan fydd y blodyn yn debygol o wywo dros nos mae Alfredo yn ymadael yn hapus gan weld y rhodd fel gwahoddiad i ymweld â hi eto'r ddiwrnod canlynol.
 
Wedi ei gadael ar ei  phen ei hun, mae teimladau Violetta yn cael eu rhwygo rhwng y dymuniad i barhau a phleserau bywyd y llys a'r awydd mae Alfredo wedi codi ynddi i gael profi gwir gariad.
 
==Cyfeiriadau==