La traviata: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 66:
 
==== Golygfa 2 ====
Yn y ddawns mwgwd mae'r newyddion am ymwahaniad Violetta ac Alfredo yn ymledu. Mae'r gwesteion yn perfformio dawnsfeydd ffiaidd i chwarddi ar Alfredo am ei ffolineb mewn cariad.  Yn y cyfamser, mae Violetta a'i chariad newydd, y Barwn Douphol, yn cyrraedd. Mae Alfredo yn curo'r barwn wrth y bwrdd [[Gamblo|hapchwarae]] ac mae Alfredo yn ennill ffortiwn. Pan fydd pawb arall wedi ymadael, mae Alfredo yn herio Violetta, sy'n honni e bod yn wirioneddol mewn cariad â'r barwn. Yn ei dymer, mae Alfredo yn galw'r gwesteion yn dystion i ddatganiad ganddo nad oes ganddo bellach unrhyw ddyled i Violetta. Mae'n taflu ei enillion ati. Mae Giorgio Germont, sydd wedi bod yn dyst i'r olygfa, yn ceryddu ei fab am ei ymddygiad. Mae'r barwn yn herio ei gystadleuydd i ornest farwol (duel)<ref>{{Cite web|url=https://www.britannica.com/topic/La-traviata|title=Britannica - La traviata|date=|access-date=17/03/2018|website=Britannica|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>.
 
== Act III ==
Mae Violetta ar fin marw. Mae ei ffrind olaf, Doctor Grenvil, yn gwybod nad oes ganddi ond ychydig oriau i fyw. Mae tad Alfredo wedi ysgrifennu at Violetta, gan ddweud wrthi na chafodd ei fab ei anafu yn yr ornest. Yn llawn edifeirwch, mae Germont wedi dweud wrth ei fab am aberth Violetta. Mae Alfredo am ail uno â hi cyn gynted ag y bo modd. Mae Violetta yn ofni y gallai fod yn rhy hwyr. Clywir sŵn dathliadau mawr y tu allan tra bod Violetta mewn gwewyr marwol. Ond mae Alfredo yn cyrraedd ac mae'r aduniad yn llenwi Violetta gyda chariad. Mae hi'n teimlo llawn bywyd o'r newydd. Mae pob tristwch a dioddefaint yn ymddangos fel ei bod wedi ymadael a hi - ond dim ond rhith terfynol ydyw, cyn i farwolaeth ei threchu.
 
==Cyfeiriadau==