Iron Bridge: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
cyfeiriadaeth a gh
Llinell 1:
{{coord|52.627245|N|2.485533|W|display=title}}
[[Delwedd:The Iron Bridge (8542).jpg|bawd|Y Bont Haern]]
 
Pont sy'n croesi [[Afon Hafren]] yn [[Swydd Amwythig]], [[Gorllewin Canolbarth Lloegr (rhanbarth)|Gorllewin Canolbarth Lloegr]], yw'r '''Iron Bridge'''. Agorwyd ym [[1781]], dyma'r bont fawr cyntaf (mwy na 100 troedfedd (30.5 medr) o hyd) i'w hadeiladu o [[haearn bwrw]]. <ref name=timelines>{{cite web|title=Iron Bridge|url=http://www.engineering-timelines.com/scripts/engineeringItem.asp?id=80|website=Engineering Timelines|accessdate=3 Chwefror 2017}}</ref>
 
Roedd y bont yn garreg filltir bwysig yn hanes peirianneg. Mae'n [[adeilad rhestredig]] Gradd I ac mae'n sefyll yng [[Ceunant Ironbridge|Ngheunant Ironbridge]], sydd ar restr [[UNESCO]] o [[Safle Treftadaeth y Byd|Safleoedd Treftadaeth y Byd]] ers [[1986]]. <ref>{{cite web|title=Ironbridge Gorge|url=http://whc.unesco.org/en/list/371|website=UNESCO World Heritage Centre|publisher=UNESCO|accessdate=3 Chwefror 2017}}</ref>
 
==Hanes==
Dechreuodd [[Abraham Darby I]] ddoddidoddi mwyn haearn lleol gyda côc a wnaed o glo [[Coalbrookdale]] ym [[1709]], ac yn y degawdau nesaf daeth yr ardal yn ganolfan ddiwydiannol bwysig. Defnyddiwyd Afon Hafren ar gyfer cludo deunyddiau, ond roedd y Ceunant Afon Hafren yn rhwystr rhwng tref [[Broseley]] i'r de o'r afon a [[Madeley]] a [[Coalbrookdale]] i'r gogledd. Roedd angen pont uchel gyda dim ond un rhychwant oherwydd bod yn rhaid i longau uchel basio o dan.
 
Ym [[1773]] awgrymodd y pensaer [[Thomas Farnolls Pritchard]] adeiladu pont a wnaed o haearn. Yn y pen draw, cyflawnwyd ei gynllun, a chafodd y cydrannau eu gwneud yng ngwaith haearn Coalbrookdale ym 1777-79. Agorwyd y bont i draffig yn [[1781]].
 
==Gweler hefyd==
*[[Din Gwrygon]]; bryngaer Geltaidd 8 hectar ychydig o filltiroedd i'r dwyrain
*[[Pont y Borth]], gan [[Thomas Telford]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{Comin}}
 
[[Categori:Pontydd Lloegr]]
[[Categori:Sefydliadau 1781]]
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Swydd Amwythig]]