Francisco Franco: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
??
Llinell 3:
Roedd '''Francisco Franco Bahamonde''' ([[4 Rhagfyr]] [[1892]] - [[20 Tachwedd]] [[1975]]), yn gadfridog a ddaeth yn unben Sbaen o ganlyniad i [[Rhyfel Cartref Sbaen|Ryfel Cartref Sbaen]] rhwng [[1936]] a [[1939]] ac a gadwodd ei afael ar y wlad hyd ei farwolaeth.
 
Ganed ef yn [[Ferrol]], [[Sbaen]]. Roedd ynei dad yn y [[llynges]], ond gan fod prinder swyddi yn y llynges, penderfynodd Franco ymuno a'r fyddin. Aeth i academi filwrol [[Toledo]], lle graddiodd yn safle 251 allan o 312. Cafodd yrfa fwy llwyddiannus wedyn, gan ddod yn gadfridog ieuengaf y fyddin.
 
Pan ddechreuodd y fyddin baratoi gwrthryfel yn erbyn llywodraeth adain-chwith Sbaen yn 1936, roedd Franco'n amlwg yn y paratoadau. Y prif arweinwyr eraill ymhlith y swyddogion a geisiodd gipio grym oedd [[José Sanjurjo]] ac [[Emilio Mola]]. José Sanjurjo oedd wedi ei fwriadu fel yr arweinydd, ond fe'i lladdwyd mewn damwain awyren wrth hedfan o [[Portiwgal|Bortiwgal]] i Sbaen, a daeth Franco yn arweinydd. Daeth yn arweinydd y lluoedd Cenedlaethol, ac ar ddiwedd y rhyfel cartref ar [[1 Ebrill]] [[1939]], yn unben Sbaen. Roedd ganddo berthynas weddol agos ag [[Adolf Hitler]] a [[Benito Mussolini]], oedd wedi ei gynorthwyo yn y rhyfel cartref, ond gwrthododd ymuno a hwy yn yr [[Ail Ryfel Byd]].