Epigram: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ffurf lenyddol gryno, yn llinell, cwpled neu bennill, sy'n traethu doethineb neu wirionedd neu gyngor buddiol ynghylch bywyd a'r byd wedi'i fynegi'n goeth, yn fachog a chofiadwy yw '''epigram'''. Gair [[Groeg (iaith)|Groeg]] yw ''epigamepigram'' sydd wedi cael ei fenthyg gan sawl iaith, yn cynnwys y Gymraeg, a gan lenorion [[Groeg yr Henfyd]] y ceir yr epigramau cynharaf yn nhraddodiad llenyddol y Gorllewin. Ceir ffurfiau tebyg mewn diwylliannau eraill hefyd, e.e. yr [[haiku]] yn llenyddiaeth Siapaneg, ac mae'n ffurf lenyddol boblogaidd yn y Gymraeg ers canrifoedd.
 
Tyfodd yr epigram yn y Gorllewin allan o arfer y Groegiaid o lunio [[beddargraff]]iadau am y meirw. Yn ddiweddarach cafwyd casgliadau o epigramau Groeg, yn cynnwys ''Y Flodeugerdd Roeg''. Ymledaenodd yr epigram i [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufain]] a daeth beirdd fel [[Marcus Valerius Martialis|Martial]] yn feistri arno. Parhaodd traddodiad yr epigram Lladin clasurol yn rhan o brif ffrwd llenyddiaeth Ewrop am ganrifoedd. Un o epigramwyr Lladin enwocaf yr 17eg ganrif oedd y Cymro [[John Owen (The British Martial)|John Owen]], a adnabyddwyd fel "Martial Prydain".