Mathew: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:The Evangelist Matthew Inspired by an Angel.jpg|250px|bawd|"Yr angel yn ysbrydoli Sant Mathew", gan [[Rembrandt]].]]
:''Gweler hefyd [[Mathew (gwahaniaethu)]].''
Un o [[Apostolion|Ddeuddeg Apostolion]] [[Iesu o Nasareth]] a ystyrir yn [[sant]] gan yr [[Cristnogaeth|Eglwys Gristnogol]] oedd '''Mathew''' ([[Hebraeg]]: מתי/מתתיהו, ''Mattay''/''Mattithayu'', "Rhodd Yahweh"; [[Groeg (iaith)|Groeg y Testament Newydd]]: Ματθαίος, ''Matthaios'', [[Groeg (iaith)|Groeg Diweddar]]: Ματθαίος [Matthaíos]), y cyfeirir ato gan amlaf fel '''Sant Matthew''' neu'r Apostol Mathew. Yn ôl traddodiad, ef yw awdur ''[[Yr Efengyl yn ôl Mathew]]'', llyfr sy'n ei uniaethu, fodd bynnag, gyda'r casglwr trethi '''Lefi'''.
 
Yn ôl yr hanes a geir yn ''[[Yr Efengyl yn ôl Marc]]'', roedd Mathew wrth ei waith yn nhref [[Capernaum]] pan ddaeth Iesu ato a gorchymyn iddo ei ddilyn. Fel arall mae'n ffigwr anelwig braidd yn y [[Testament Newydd]]. Ceir llawer mwy o fanylion gan yr hanesydd Cristnogol [[Eusebius]] yn ei lyfr ''Historia ecclesiastica''. Dywed Eusebius fod Mathew wedi pregethu i'r [[Hebreaid]] ac wedi sgwennu ei Efengyl ar eu cyfer cyn adael [[Palesteina]].