Ivor Richard, Barwn Richard: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B Gwybodlen |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 54:
Disodlwyd Richard o fewm misoedd pan ddaeth y llywodraeth Geidwadol newydd i rym ym 1979. Fodd bynnag, ym 1980, cafodd ei ddewis gan y Blaid Lafur i gymryd un o'r swyddi ar y Comisiwn Ewropeaidd (gan ddisodli [[Roy Jenkins]]). Roedd yn hysbys mai trydydd dewis y Blaid Lafur oedd ar gyfer y swydd: roedd y cyn-Gweinidog Trysorlys [[Joel Barnett]] wedi gwrthod y gwahoddiad, a roedd y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn, Fred Mulley wedi cael ei atal gan y llywodraeth Geidwadol. Cymerodd Richard gyfrifoldeb am Gyflogaeth, Polisi Cymdeithasol, Addysg a Hyfforddiant.
Dychwelodd Richard i Gymru ym 1985 ac fe'i penodwyd yn Gadeirydd World Trade Centre Wales Ltd., oedd yn ceisio denu buddsoddwyr rhyngwladol i fusnesau Cymru. Yn 1990, fe'i ddewiswyd gan Blaid Lafur fel 'Arglwydd Gweithiol', a fe'i wnaed yn Arglwydd Oes ar 14 Mai 1990 gan cymryd y teitl '''Barwn Richard''', o [[Rhydaman|Rydaman]] yn [[Dyfed|Sir Ddyfed]]<ref>{{London Gazette |issue=52141 |date=17 May 1990 |startpage=9287}}</ref> a daeth yn llefarydd yr wrthblaid yn [[Tŷ'r Arglwyddi|nhŷ'r Arglwyddi]]. Gwnaeth ei arddull bargyfreithiol arwain at ei benodiad fel Arweinydd Arglwyddi Llafur o 1992, a chafodd ei benodi i'r Cyfrin Gyngor. Ceisiodd Richard ddwysáu ymosodiad Llafur yn erbyn y Llywodaeth ac yn hwyr yn 1993 arloesoedd [[Pleidlais o ddiffyg hyder|cynnig o ddiffyg Hyder]] yn y Llywodraeth (cam ddigynsail yn Nhŷ'r Arglwyddi), er ei fod yn cydnabod ei fod yn arwydd symbolaidd na fyddai'n gwneud i'r llywodraeth gywmp, oherwydd y flaenoriaeth a roddir i'r [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Tŷ Cyffredin]].<ref>[http://hansard.millbanksystems.com/lords/1993/dec/01/government-policies-confidence]</ref>
Pan enillodd Llafur yr etholiad 1997, daeth Richard daeth yn Arglwydd y Sêl Gyfrin ac Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi. Gyda Llafur yn ffafrio diwygio y Tŷ a dechrau drwy gael gwared o'r Arglwyddi Etifeddol, dechreuodd Richard y gwaith ar gyfansoddiad newydd y Tŷ, ond cafodd sioc pan collodd ei swydd yn sydyn ar yr ad-drefnu cyntaf ym mis Gorffennaf 1998 lle fe'u ddisodlwyd gan y Farwnes Jay o Paddington. Cafodd ei feddyliau ar y broses o ddiwygio'r y Tŷ eu cyhoeddi yn ''Unfinished Business'' yn 1999 a daeth Richard yn ffrind beirniadol o'r Llywodraeth.
Yn ddiweddarach, gwasanaethodd yr Arglwydd Richard fel Cadeirydd y Cyd-Bwyllgor Seneddol ar Ddrafft Mesur Diwygio Tŷ'r Arglwyddi.<ref>[http://www.parliament.uk/business/committees/committees-a-z/joint-select/draft-house-of-lords-reform-bill/publications/ www.parliament.uk]
== Comisiwn Richard ==
|