Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Machen"

No change in size ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(iaith)
BNo edit summary
Mae '''Machen''' (Cyfeirnod OS: ST 226 887) yn bentref eitha mawr, wedi'i leoli dair milltir i'r dwyrain o [[Caerffili|Gaerffili]] ar ffordd yr [[A468]] ym [[Caerffili (sir)|Mwrdeistref Sirol Caerffili]] yn ne [[Cymru]]. Mae [[Bedwas]] a [[Trethomas|Threthomas]] gerllaw, sydd ynghyd â Machen yn llunio [[ward]] cyngor. Mae yma [[Castell machenMachen|gastell]] Cymreig.
 
Saif y pentref ar droed Mynydd Machen, mae'n bosib cerdded i fyny ac ar hyd c'r mynydd, lle mae nifer o feini a enwir mewn chwedlau lleol. Dywed un chwedl y bu [[Sant Pedr]] yn ymwled a Chymru. Ar ymddangosiad sydyn y diafol, cododd nifer o feini mawrion a'u gosod yn ei ffedog er mwyn gallu eu cario yn rhwyddach. Erlidiwyd ef gan diafol, a bu'r ddau'n neidio o gopa un mynydd i'r llall. Wrth i'r diafol lanio ar gopa Mynydd Machen, arhosodd er mwyn dal ei anadl a dechreuodd [[Sant Pedr]] daflu'r meini tuag ato, gan eu gadael ar wasgar o gwmpas y fro.