Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Prishtina"

Ychwanegwyd 149 beit ,  3 blynedd yn ôl
Roedd yn perthyn i'r Ymerodraeth Otomanaidd Twrceg o [[1455]] i [[1912]] a hi oedd prifddinas rhanbarth ''Vilajeti hi Kosovës'' rhwng [[1877]] a [[1888]].<ref> Salnâme-i Vilâyet-i Kosova, Rumeli Türkleri Kultur ve Dayanışma Derneği, [[Istanbul]]</ref>. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ddaeth yn rhan o wladwriaeth [[Iwgoslafia]] o [[1918]] hyd [[2008]]. Ym [[Mai]] [[1944]], yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], arestiodd y ''21. Waffen-Gebirgs-Division der SS Skanderbeg (. Albanische Nr 1)'' 281 o [[Iddewon]] y ddinas gan eu danfon i wersyll Bergen-Belsen <ref name=":0">[http://kosovoholocaust.com/ Holocaust Kosovo]</ref> lle lladdwyd hwy.
 
Yn 1874 agorodd yr Otomaniai y rheilffordd rhwng Salonika (Groeg heddiw) a Mitrovica (gogledd Cosofo) gan fynd drwy Prishtina. Gydag hyn symudwyd daeth Prishtina yn brif dref y dalaith (''vilayet'') ar draul Prizren. Gyda chwymp rheolaeth yr Otomaniaid yn Awst 1912 i luoedd yr gwrthryfelaidd Albanaidd dan arweiniad Hasan Prishtina disgwylwyd gweld Prishtina a Cofoso yn ymuno ag Albania. Bu Serbia a Bwlgaria yn ymladd gyda'i gilydd dros reolaeth o Cosofo. Ym mis Hydref 1918, meddianwyd y ddinas gan y Ffrancod a daeth Prishtina yn rhan o'r 'Iwgoslafia Gyntaf' ar y 1 Rhagfyr 1918. Ymgymrodd y Serbiaid â pholisi bwriadol o wladychu ei talaith newydd â Serbiaid [22]Rhwng 1929 a 1941, roedd Priština yn rhan o Vardar (sirtalaith) [[Banovina]] Vardar o Deyrnas Iwgoslafia. Roedd y Banovina yma yn cynnwys Macedonia a deheudir Serbia ac yn ymdrech fwriadol i beidio cydnabod hunaniaeth neu genedligrwydd Albanaidd.
 
Ar 17 Ebrill 1941, ildiodd Iwgoslafia yn ddiamod i rymoedd yr Echel (Axis) yn yr [[Ail Ryfel Byd]]. Ar 29 Mehefin 1941, cyhoeddodd [[Benito Mussolini]] ''Albania Fawr'', gan uno'r rhan fwyaf o Cosofo o dan yr Eidal yn unedig ag Albania. Lladdwyd nifer fawr o Serbiaid, yn enwedig ymsefydlwyr, a ffodd degau o filoedd. Ar ôl dyfodiad yr Eidal, ym [[Mai]] [[1944]], death y ddinas dan reolaeth y [[Natsiaid]] . Arestiodd y ''21. Waffen-Gebirgs-Division der SS Skanderbeg (. Albanische Nr 1)'' 281 o [[Iddewon]] y ddinas gan eu danfon i wersyll Bergen-Belsen <ref name=":0" /> lle lladdwyd hwy. Ychydig o deuluoedd Iddewig sydd wedi goroesi yn Pristina yn y pen draw a adawodd i Israel ym 1949. [13] O ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd ac ymfudo dan orfod, gostyngodd poblogaeth Pristina i 9,631 o drigolion.
Defnyddiwr anhysbys