Y Dreigiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 48:
Mae Dreigiau Casnewydd Gwent yn un o'r pump rhanbarth gwreddiol yn hanes rygbi rhanbarthol Cymru. Yn 2003, penderfynodd Undeb Rygbi Cymru newid lefel uchaf rygbi Cymru o naw clwb i bump rhanbarth, yn dilyn llwyddiant system felly yn Iwerddon, Seland Newydd, Awstralia a De Africa. Roedd yn benderfyniad dadleuol ar y pryd, gyda llawer o gefnogwyr yn erbyn y newidiadau.
 
Ffurfiwyd Dreigiau Casnewydd Gwent gan gyfuno tîmoedd Casnewydd ac Glyn Ebwy gyda'r dau yn perthyn hanner yr rhanbarth. Yn wreiddiol fe enwyd y tim yn Dreigiau Gwent gan yr [[Undeb Rygbi Cymru]] oherwydd nad oedd y dau yn gallu cytuno ar enw. Oherwydd problemau ariannol fe gwerthodd Glyn Ebwy eu hanner i Casnewydd ac cyn i'r tymor cyntaf dechrau, roedd Casnewydd wedi newid enw'r rhanbarth i Dreigiau Casnewydd Gwent. Yn swyddogol mae'r rhanbarth yn cynrychioli De-Dwyrain Cymru.
 
Yr oedd tymor gyntaf y Dreigiau yn eithaf llwyddiannus. Roedd tîm da gyda'r rhanbarth ond nid oedd llawer o sêr rhyngwladol ganddynt. Oherwydd hon nid oedd y Dreigiau wedi colli llawer o chwaraewyr dewis-cyntaf yn ystod Cwpan y Byd 2003. Roedd yr rhanbarth yn un o tair a oedd yn gallu ennill y [[Cynghrair Celtaidd]] yn ystod y tymor 2003-04 ar y penwythnos olaf y cystadlaeth. Fe gollwyd y Dreigiau gêm olaf y tymor ac gorfennodd nhw yn y 3ydd safle. Ar diwedd y tymor, fe roddwyd swydd Prif hyfforddwr Cymru i hofforddwr y Dreigiau, [[Mike Ruddock]], yn amgylciadau dadleuol.
 
Fe parhodd y lwyddiant i raddau yn ystod yr ail tymor, gyda rhai chwaraewyr yn ymyno oddiwrth y [[Rhyfelwyr Celtaidd]] fe gorfenodd yr rhanbarth yn 4ydd safle yn y [[Cynghrair Celtaidd]] o flaen dau rhanbarth arall o Gymru, [[Scarlets Llanelli]] a [[Gleision Caerdydd]]. Methodd y rhanbarth cyraedd yr ail rownd [[Cwpan Heineken]] y tymor yma.