Prishtina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 51:
Yn ystod cyfnod yr Otomaniaid, roedd Pristina yn ganolfan fasnachu a mwyngloddio bwysig oherwydd ei safle strategol ger tref glofaol gyfoethog Novo Brdo. Roedd y ddinas yn adnabyddus am ei ffeiriau masnach ac eitemau, fel chroen a gwallt gafr a phowdwr gwn. Adeiladwyd y mosg cyntaf yn Prishtina ar ddiwedd y 14eg ganrif tra dan reolaeth Serbeg.
 
Roedd yn perthyn i'r Ymerodraeth Otomanaidd Twrceg o [[1455]] i [[1912]] a hi oedd prifddinas rhanbarth[[vilayet]] ''Vilajeti hi Kosovës'' rhwng [[1877]] a [[1888]].<ref> Salnâme-i Vilâyet-i Kosova, Rumeli Türkleri Kultur ve Dayanışma Derneği, [[Istanbul]]</ref>. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ddaeth yn rhan o wladwriaeth [[Iwgoslafia]] o [[1918]] hyd [[2008]]. Ym [[Mai]] [[1944]], yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], arestiodd y ''21. Waffen-Gebirgs-Division der SS Skanderbeg (. Albanische Nr 1)'' 281 o [[Iddewon]] y ddinas gan eu danfon i wersyll Bergen-Belsen <ref name=":0">[http://kosovoholocaust.com/ Holocaust Kosovo]</ref> lle lladdwyd hwy.
 
Yn 1874 agorodd yr Otomaniai y rheilffordd rhwng Salonika (Groeg heddiw) a Mitrovica (gogledd Cosofo) gan fynd drwy Prishtina. Gydag hyn symudwyd daeth Prishtina yn brif dref y dalaith (''vilayet'') ar draul Prizren. Gyda chwymp rheolaeth yr Otomaniaid yn Awst 1912 i luoedd yr gwrthryfelaidd Albanaidd dan arweiniad Hasan Prishtina disgwylwyd gweld Prishtina a Cofoso yn ymuno ag Albania. Bu Serbia a Bwlgaria yn ymladd gyda'i gilydd dros reolaeth o Cosofo. Ym mis Hydref 1918, meddianwyd y ddinas gan y Ffrancod a daeth Prishtina yn rhan o'r 'Iwgoslafia Gyntaf' ar y 1 Rhagfyr 1918. Ymgymrodd y Serbiaid â pholisi bwriadol o wladychu ei talaith newydd â Serbiaid [22]Rhwng 1929 a 1941, roedd Priština yn rhan o (talaith) [[Banovina]] Vardar o Deyrnas Iwgoslafia. Roedd y Banovina yma yn cynnwys Macedonia a deheudir Serbia ac yn ymdrech fwriadol i beidio cydnabod hunaniaeth neu genedligrwydd Albanaidd.