Ynys y De: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|Map o Ynys y De Un o'r ddwy brif ynys sy'n ffurfio, gyda'u rhagynysoedd, gwlad Seland Newydd yw '''Ynys y De''' ([[Maori (iaith)|Ma...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:06, 9 Chwefror 2009

Un o'r ddwy brif ynys sy'n ffurfio, gyda'u rhagynysoedd, gwlad Seland Newydd yw Ynys y De (Maori: Te Wai Pounamu; Saesneg: South Island). Mae'n cynnwys dinasoedd Christchurch, a Dunedin. Mae Culfor Cook yn gorwedd rhyngddi a'r ynys fawr arall, Ynys y Gogledd. I'r gorllewin ceir Môr Tasmania ac i'r dwyrain ceir y Cefnfor Tawel. Mae ganddi arwynebedd o 151,215 km sgwar a phoblogaeth o 1,008,400 o bobl (2001). Mae hi'n ynys fynyddig lle ceir Alpau'r De sy'n cynnwys Aoraki (Mynydd Cook) (3,754 m), y mynydd uchaf ar yr ynys ac yn Seland Newydd gyfan.

Map o Ynys y De
Eginyn erthygl sydd uchod am Seland Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.