Vilayet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Vilayet''' gair [[Twrceg]] o'r Arabeg (Ffarseg: ولايت; [[Arabeg]]: ولاية wilaya|wilāya, [[Ffarsi]]: ولايت;). Dyma oedd yr enw ar [[talaith|daleithiau]] o fewn [[Ymerodraeth Otomanaidd]] wedi Diwygiad 1864. Disodlodd y gyfundrefn newydd yr ''eyalet'' fel uned lywodraethu. Roedd y vilayet newydd wedi ei seilio ar [[Département]] gwladwriaeth [[Ffrainc]]. Gweinyddwyd y Vilayets gan Lywodraethwr (''Vali''). Islaw y Vilayet roedd dau neu fwy ''sanjak'' (fyddai'n cyfateb yn fras i sir yng Nghymru).
 
Gweithrwdwyr yr egwyddor o ddiwygiad llywodraeth lleol yn gyntaf yn 1864 gan greu Vilayet y [[Donaw]] (Danube) a ddaeth i fod yn egin tywysogaeth annibynnol [[Bwlgaria]] yn 1878. Rhwng 1867 ac 1884 ymestynwyd yr egwyddor ar draws yr ymerodraeth. Mewn rhai achosion fe barhaodd rhai siroedd (sanjak) yn annibynnol o'r vilayet ond gan cael eu rheoli'n uniongyrchol gan y llywodraeth ganolog am resymau'n ymwneud â gwleidyddiaeth, crefydd neu rhesymau strategol.