A498: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau)
hyd y ffordd
Llinell 1:
Ffordd 1624 km (15 milltir) o hyd ydy'r '''A498''', rhwng [[Pen-y-Gwryd]] a [[Porthmadog]].
 
Ym Mhen-y-Gwryd, mae'r [[A4086]], lôn [[Bwlch Llanberis]] yn troi i ffwrdd i'r gogledd. Mae'r A498 yn disgyn o gopa 277m (909 tr.) Pen-y-Gwryd ac yn rhedeg i'r de orllewin trwy bentref [[Beddgelert]] a [[Bwlch Aberglaslyn]], lle mae'n gorgyffwrdd yr [[A4085]]. Mae'r A498 yn teithio trwy [[Tremadog]], lle mae'n gorgyffwrdd yr [[A487]] am bellter byr cyn pasio odan bont sy'n dwyn [[Rheilffordd Arfordir Cambrian]] a gorffen ym [[Penamser|Mhenamser]] ar yr A497, tua milltir i'r gorllewin o Borthmadog. Yn ei ben gogleddol, mae'r ffordd yn cysylltu trwy'r A4086 gyda'r [[A5]] yng [[Capel Curig|Nghapel Curig]], gan ffurfio llwybr defnyddiol ar gyfer ymwelwyr i ardal Beddgelert a Porthmadog. Wrth y cyffyrdd, mae'r A4086 i Llanberis yn ffordd llai ym Mhen-y-Gwryd, tra mai'r A498 yw'r ffordd llai ym Meddgelert. Wrth Pont Aberglaslyn, mae'r A4085 yn ffordd llai sy'n dargyfeirio tuag at [[Penrhyndeudraeth]] ac yn Nhremadog, yr A498 yw'r briffordd. Mae'r cyffordd i'r gorllewin o Dremadog yn gylchfan ac ym Mhenamser, yr A498 yw'r ffordd llai unwaith eto.