Turtur dorchog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 24:
Ymddengys i'r Durtur Dorchog gyrraedd y [[Bahamas]] trwy ddamwain, ac oddi yno lledaenodd i [[Florida]] ac erbyn hyn i ran helaeth o [[Unol Daleithiau America]]. Un yn ymgartrefu'n hawdd mewn unrhyw leoliad. Nid yw'n [[aderyn mudol]], er y gellir gweld symudiadau weithiau, yn enwedig mewn tywydd oer.
 
Mae'n nythu mewn coed, yn dodwy dau wy ar y tro. Gall nythu nifer o weithiau mewn blwyddyn. Gellir gweld yr aderyn yma o gwmpas gerddi yn aml iawn, ac mae'n medru bod yn ddôf iawn. Mae'n golomen weddol fychan, gyda phlu llwyd golau, a gwyn ar flaen y gynffon. Daw'r enw o'r hanner coler ddu ar y gwedilgwegil.
 
Yn y gaeaf gall cryn nifer o adar gasglu yn haid, yn enwedig lle mae digonedd o fwyd ar gael.