Cassie Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B Gwybodlen wicidata |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
== Cefndir ==
{{infobox person/Wikidata
| fetchwikidata=ALL
Llinell 5 ⟶ 6:
| dateformat = dmy
}}
Addysgwyd hi yn ysgol fach Blaencaron, ac yna yn y ‘Cownti Sgŵl’ yn Nhregaron, lle bu iddi gael ei dysgu gan S. M. Powell. Dyma un o’r prif ddylanwadau ar y Cassie ifanc, gyda’i gwersi wedi’u gwreiddio yn hanes, chwedlau a thraddodiadau’r ardal.
Symudodd ymlaen i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac er iddi ennill ei gradd nid effeithiodd y cwrs arni o gwbl, ac felly aeth yn ôl i ennill ail radd yn y Gymraeg. Yn ystod y cwrs hwn ''“…yr enynnwyd fy niddordeb diollwng i yn fy iaith fy hun. Dyma’r pryd y dechreuais i ddod yn ymwybodol o’m gwreiddiau a’m hetifeddiaeth fel Cymro…”.''<ref>{{Cite book|title=Hwb i'r galon|last=Davies|first=Cassie|publisher=Gwasg John Parry|year=1973|isbn=|location=|pages=}}</ref>
Bu’n ddarlithydd yng Ngholeg Addysg y Barri rhwng 1923 ac 1938.
Bu farw yn 1988. Gosodwyd cofeb iddi ar wal Capel Blaencaron gan Gangen Plaid Cymru Tregaron gyda’r geiriau canlynol wedi’u hysgrifennu arni: ''Bu’n hwb i’w bro a’i gwlad.''
== Plaid Cymru ==
Yn ystod Ysgol Haf gyntaf Plaid Cymru ym Machynlleth yn 1926, ymunodd Cassie â’r Blaid gan gwrdd â rhai o’i ffrindiau oes yno, pobl fel Saunders Lewis, Kate Roberts a D.J. Williams. Aeth yn ôl i’r Bari a sefydlu cangen o’r Blaid yno, a bu ei gwaith gyda Phlaid Cymru yn ddiflino wedi’r haf hwnnw.
Yn 1938 penodwyd hi yn Arolygydd Ysgolion, gyda gofal arbennig dros y Gymraeg. Yn y swydd hon y daeth hi i adnabod Cymru, gan flasu ac ymgolli yn niwylliannau amrywiol ei gwlad; o Ben Llŷn i’r Rhondda, Morgannwg a Phenfro. Lle bynnag yr âi, hoffai ddim mwy ’na dod i adnabod cymeriadau’r ardal a rhannu ambell i stori neu gân.
==Cyfeiriadau==
|