Ann Watkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Alltudiwyd Ann Watkins, 19 blwydd oed o Sir Fynwy am ddeng mlynedd i Van Diemen’s Land wedi iddi ddwyn darn o facwn a thorth o fara, ei throsedd cyntaf hyd y gwyddom.<ref>{{Cite web|url=https://drudwen.tumblr.com/post/164142365194/ann-watkins-a-ruth-roberts-e-tomos|title=Ann Watkins a Ruth Roberts|date=|access-date=22/03/2018|website=Prosiect Drudwen|last=Tomos|first=Elin|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
Ym marn sawl hanesydd blaenllaw megis Deidre Beddoe derbyniodd merched a oedd wedi troseddu gosb lem trawsgludiad oherwydd bod angen cywiro’r anghydbwysedd a fodolai rhwng y rhywiau o fewn y cytrefi cosb.  Alltudiwyd troseddwyr benywaidd i Awstralia er mwyn bodloni chwantiau rhywiol y troseddwyr a’u swyddogion. O dan Ddeddf Trawsgludo mae lle i gredu fod merched wedi derbyn triniaeth wahanol i’w cyfatebwyr gwrywaidd am iddynt dderbyn y gosb hon am fân droseddau.<ref>{{Cite book|title=Welsh Convict Women|last=Beddoe|first=Deirdre|publisher=S.Williams|year=1979|isbn=|location=|pages=}}</ref>