Menywod Greenham Common: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ym mis Medi 1981, cerddodd 36 o fenywod o Gymru i Wersyllfa Filwrol Greenham Common, yn Wiltshire yn Ne Lloegr, er mwyn protestio penderfyniad y llywodrae...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 18:49, 22 Mawrth 2018
Ym mis Medi 1981, cerddodd 36 o fenywod o Gymru i Wersyllfa Filwrol Greenham Common, yn Wiltshire yn Ne Lloegr, er mwyn protestio penderfyniad y llywodraeth i gadw taflegrau niwclear Cruise yno.[1]
Cadwynodd y menywod, oedd yn galw eu hunain yn ‘Women for Life on Earth’, eu hunain i ffens Greenham Common, a sefydlu gwersyll heddwch yno. Ym mis Mai 1982, protestiodd 250 o fenywod trwy ffurfio blocâd, ac arestiwyd 34 ohonynt.[2]
Ar y 1af o Ebrill 1983, ffurfiodd 70,000 o brotestwyr gadwyn ddynol 14 milltir o hyd – o Greenham i Aldermaston a ffatri ordinans Bughfield. Cafodd y brotest hon lawer o sylw yn y cyfryngau, ac o ganlyniad sefydlwyd dros 12 o wersylloedd heddwch eraill yng ngweddill Prydain ac Ewrop.[3]
Yn mis Rhagfyr 1983, amgylchynnodd 50,000 o brotestwyr Greenham Common, a thorrwyd darnau o’r ffens yn y brotest. Cafodd cannoedd o brotestwyr eu harestio.[4]
Roedd y gwersyll yn cynnwys naw gwersyll llai, gan gynnwys y Gât Feleb, y Gât Las, a’r Gât Fioled.
Yn 1991 gadawodd yr arfau niwclear olaf Greenham Common, ond ni adawodd y gwersyllwyr olaf tan 2000, pan osodwyd cofeb i’r gwersyll heddwch yno.[5]
Cyfeiriadaeth
- ↑ Guardian. [ttps://www.theguardian.com/uk-news/2017/mar/20/greenham-common-nuclear-silos-women-protest-peace-camp "How the Greenham Common protest changed lives: 'We danced on top of the nuclear silos'"]. The Guardian. Cyrchwyd 22/03/2018. zero width space character in
|title=
at position 9 (help); Check date values in:|access-date=
(help) - ↑ Kidron, Beeban. "The women of Greenham Common taught a generation how to protest". Guardian. Cyrchwyd 22/03/2018. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Pells, Rachael. "Greenham Common peace camp: Remembering one of history's most famous feminist protests 35 years on". Independent. Cyrchwyd 22/03/2018. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ BBC News. "The many faces of Greenham Common". BBC News. Cyrchwyd 22/03/2018. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ Lois, Efa. "Menywod Greenham Commons". Prosiect Drudwen. Cyrchwyd 22/03/2018. Check date values in:
|access-date=
(help)