Gwenfron Moss: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cenhades yn Tsieina ac India
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Gwenfron Moss"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:40, 22 Mawrth 2018

Roedd Gwenfron Moss (27 Gorffennaf, 1898 – 10 Awst, 1991) fferyllydd Cymraeg ddaeth yn genhades yn China, India a Zambia.


Bywyd

Ganwyd Moss yn Coedpoeth. Cafodd ei haddysg yn ysgol Grove Park i ferched yn Wrecsam cyn hyfforddi fel fferyllydd yn Llundain.[1]

Yn 1921 ymgeisiodd i fod yn genhades ond dewisodd Cymdeithas Cenhadon Llundain Gwynne Beynon i fynd i Shanghai fel fferyllydd. Roedd Moss yn gredinio serch hynny o'i galw i fynd i gynhadledd Cenhadon Swanwick yn 1925. Trefnwyd iddi gael hyfforddiant yn Carey Hall.


Aeth i China Awst 23, 1928. Treuliodd amser yn Beijing i ddysgu'r iaith cyn dychwelyd i weithio fel fferyllydd yn ysbyty Mackensie Memorial yn Tiensin.

Dychwelodd i China ddwywaith yn rhagor. Ymyrrwyd ar ei ail hymweliad gan yr ail ryfel byd. Ar ôl y rhyfel, dychwelodd unwaith eto tan i'r drefn newydd benderfynu fod pob cenad yn persona non grata. Yn 1953, gofynnwyd iddi fynd i De India lle roedd yn gyfrifol am nwyddau tecstiliau. Trefnodd werthiant gwaith crosio, lês a brodwaith yn cynnwys rhai allfeydd yng Nghymru. Gweithiodd yn India tan 1964 lle dychwelodd adref ar ôl aros yng nghanolfan Kawimbe yn Zambia.


Bu farw Moss yng Nghymru. Mae'i phapurau yn cynnwys ei llythyrau adref o China ac India yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[2]

Cyfeiriadaeth

  1. "Amgueddfa Blog: Library". National Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 November 2017.
  2. https://archives.library.wales/index.php/gwenfron-moss-papers-2