Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Prishtina"

Ychwanegwyd 84 beit ,  3 blynedd yn ôl
Yn 1874 agorodd yr Otomaniai y rheilffordd rhwng Salonika (Groeg heddiw) a Mitrovica (gogledd Cosofo) gan fynd drwy Prishtina. Gydag hyn symudwyd daeth Prishtina yn brif dref y dalaith (''vilayet'') ar draul Prizren. Gyda chwymp rheolaeth yr Otomaniaid yn Awst 1912 i luoedd yr gwrthryfelaidd Albanaidd dan arweiniad Hasan Prishtina disgwylwyd gweld Prishtina a Cofoso yn ymuno ag Albania. Bu Serbia a Bwlgaria yn ymladd gyda'i gilydd dros reolaeth o Cosofo. Ym mis Hydref 1918, meddianwyd y ddinas gan y Ffrancod a daeth Prishtina yn rhan o'r 'Iwgoslafia Gyntaf' ar y 1 Rhagfyr 1918. Ymgymrodd y Serbiaid â pholisi bwriadol o wladychu ei talaith newydd â Serbiaid [22]Rhwng 1929 a 1941, roedd Priština yn rhan o (talaith) [[Banovina]] Vardar o Deyrnas Iwgoslafia. Roedd y Banovina yma yn cynnwys Macedonia a deheudir Serbia ac yn ymdrech fwriadol i beidio cydnabod hunaniaeth neu genedligrwydd Albanaidd.
 
Ar 17 Ebrill 1941, ildiodd Iwgoslafia yn ddiamod i rymoedd yr Echel (Axis) yn yr [[Ail Ryfel Byd]]. Ar 29 Mehefin 1941, cyhoeddodd [[Benito Mussolini]] ''[[Albania Fawr]]'', gan uno'r rhan fwyaf o Cosofo o dan yr Eidal yn unedig ag Albania. Lladdwyd nifer fawr o Serbiaid, yn enwedig ymsefydlwyr, a ffodd degau o filoedd. Ar ôl dyfodiadcwymp yr Eidal, ym [[Mai]] [[1944]], death y ddinas dan reolaeth y [[Natsiaid]] . Arestiodd y ''21. Waffen-Gebirgs-Division der SS Skanderbeg (. Albanische Nr 1)'' 281 o [[Iddewon]] y ddinas gan eu danfon i wersyll Bergen-Belsen <ref name=":0" /> lle lladdwyd hwy. Ychydig o deuluoedd Iddewig sydd wedi goroesi yn Pristina yn y pen draw a adawodd i Israel ym 1949. [13] O ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd ac ymfudo dan orfod, gostyngodd poblogaeth Pristina i 9,631 o drigolion.
 
Wedi'r Ail Ryfel Byd, rheolwyra threchu plaid a lluoedd cenedlaetholaidd gwrth-gomiwnyddol y [[Balli Kombëtar]] rheolwyd Iwgoslafia gan y blaid Gomiwnyddol o dan reolaeth [[Tito]]. Penderfynwyd cadarnhau Prishtina yn brifddinas Cosofo ym 1947. Gwelwyd cyfnod o ddatblygiad cyflym a dinistr llwyr. Y slogan comiwnyddol Iwgoslafaidd ar y pryd oedd ''uništi stari graditi novi'' (dinistrio'r hen, adeiladu'r newydd). Mewn ymdrech ddiffygiol i foderneiddio'r dref, bu comiwnyddion yn bwriadu dinistrio'r bazaar Otomanaidd a rhannau helaeth o'r ganolfan hanesyddol, gan gynnwys mosgiau, eglwysi catholig a thai Otomanaidd. Arweiniodd ail gytundeb a lofnodwyd rhwng Iwgoslafia a Thwrci yn 1953 at exodus nifer o gannoedd o deuluoedd Albanaidd yn fwy.
 
Sefydlwyd Prifysgol Prishtina yn 1969 a gwelwyd cyfnod o dwf gyda'r poblogaeth yn codi o 69,514 yn 1971 i 109,208 yn 1981