Iolo Morganwg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 6:
Ganwyd ''Edward Williams'', yn [[1747]], ym mhentre Pennon ym mhlwyf [[Llancarfan]] ond symudodd ei rieni i fyw ym mhentref [[Trefflemin]], rhai milltiroedd yn unig i ffwrdd, ar lan [[Afon Ddawan]], ac yno y'i magwyd ac y bu'n byw am y rhan helaeth o'inoes. Gweithiodd trwy gydol ei oes fel saer maen, ym Morgannwg ac yn [[Lloegr]], ond daeth yn enwog fel hynafiaethwr, [[bardd]] a radical. Yn [[Llundain]] roedd yn aelod ymroddgar o'r [[Cymdeithas y Gwyneddigion|Gwyneddigion]], cylch o lenorion gwladgarol a oedd yn cynnwys [[William Owen Pughe]] ac [[Owen Jones (Owain Myvyr)|Owain Myvyr]]. Daeth i adnabod [[Robert Southey]] a dechreuodd alw ei hun yn "The Bard of Liberty". Fel rhai o lenorion mawr eraill yr oes roedd Iolo'n hoff iawn o [[opiwm]] ar ffurf ''laudanium''.
 
Tra yng ngharchar [[Caerdydd]] dros fethdaliad, ganed ei fab a fedyddiodd yn [[Taliesin Williams|Daliesin]]. Roedd Taliesin yn ddisgybl i'w dad a golygodd ran o'i waith ar ôl ei farwolaeth yn 1826.
 
Pan fu farw Iolo yn 78 oed ar 18 Rhagfyr 1826, bu galar ar ei ôl gan lawer o feirdd Cymru ac eraill a'i edmygai. Cyfansoddodd [[Walter Davies (Gwallter Mechain)]] 'gywydd-gofiant' iddo sy'n clodfori ei ddysg a'i ddawn ac sy'n cloi gyda'r llinellau hyn:
 
:Tra bo ton yn afon Nedd
:A Dawon i'r un duedd,
:Taf a Chynon afonydd
:Yn gyr[r]u'u dwfr i Gaer Dydd,
:Bydd ym mhob glyn, bryn a bro
:Miloedd yn sôn am Iolo.<ref>Gwallter Davies, 'Cywydd-gofiant Iolo Morganwg', D Silvan Evans (gol.), ''Gwaith Gwallter Mechain'', cyfrol 1 (Caerfyrddin, 1868). Tud. 61.</ref>
 
==Ei waith llenyddol==