Methiant yr arennau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Kidney failure"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:29, 23 Mawrth 2018

Mae methiant yr arennau, a elwir hefyd yn gyfnod olaf (end stage) clefyd yr arennau, yn gyflwr meddygol lle nad yw'r arennau yn gweithio mwyach. Ceir dau fath o fethiant - methiant yr arennau aciwt (achosion sy'n datblygu'n gyflym) a methiant yr arennau cronig (achosion hirdymor). Gall symptomau gynnwys chwyddo ynghylch y goes, teimlo'n flinedig, chwydu, colli'r awydd i fwyta, neu ddryswch. Mae modd i glefyd acíwt arwain at gymhlethdodau, er enghraifft wremia, lefelau uchel o botasiwm yn y gwaed, neu orlwytho cyfaint. Gall cymhlethdodau clefyd cronig gynnwys clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel, neu anemia. [1][2]

Gall y canlynol achosi methiant yr arennau aciwt - pwysedd gwaed isel, rhwystr yn y llwybr wrinol, rhai meddyginiaethau, gwaeledd cyhyrol, a syndrom wremig hemolytig. Mae modd i'r canlynol achosi methiant cronig yr arennau - pwysedd gwaed uchel, syndrom neffrotig, a chlefyd yr arennau polycystig. Rhoddir diagnosis methiant aciwt fel arfer ar sail cyfuniad o ffactorau megis gostyngiad mewn cynhyrchiad wrin neu gynnydd serwm creatinin. Fel rheol rhoddir diagnosis clefyd cronig ar sail gyfradd hidlo glomerwlar (GFR) o lai na 15 neu'r angen am therapi ailosod arennol. Mae'r cyflwr hefyd yn gyfwerth â phennod 5 clefyd cronig yr arennau.


Mae triniaethau clefyd acíwt fel arfer yn dibynnu ar achos sylfaenol y cyflwr. Gall triniaethau clefyd cronig gynnwys hemodialysis, dialysis peritoneol, neu drawsblaniad arennau. Defnyddia hemodialysis peiriant i hidlo'r gwaed y tu allan i'r corff. Mewn dialysis peritoneol, rhoddir hylif penodol i mewn i'r ceudod abdomenol a'i ddraenio, fe ailadroddir y broses hon nifer o weithiau o fewn diwrnod. Wrth drawsblannu aren rhoddir aren rhywun arall yn llawfeddygol yn sydyn a chymerir meddyginiaeth gwrthimiwnaidd er mwyn atal ymwrthiant. Argymhellir mesurau eraill yn achos clefyd cronig sef aros yn weithredol a chynnig rhai newidiadau dietegol penodol.


References

  1. Liao, Min-Tser; Sung, Chih-Chien; Hung, Kuo-Chin; Wu, Chia-Chao; Lo, Lan; Lu, Kuo-Cheng (2012). "Insulin Resistance in Patients with Chronic Kidney Disease". Journal of Biomedicine and Biotechnology 2012: 1–5. doi:10.1155/2012/691369. PMC 3420350. PMID 22919275. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3420350.
  2. "Kidney Failure". MedlinePlus (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 November 2017.