Methiant yr arennau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Kidney failure"
 
ElenHaf (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae methiant yr arennau, a elwir hefyd yn gyfnod olaf (end stage) clefyd yr arennau, yn gyflwr meddygol lle nad yw'r arennau yn gweithio mwyach. Ceir dau fath o fethiant - methiant yr arennau aciwt (achosion sy'n datblygu'n gyflym) a methiant yr arennau cronig (achosion hirdymor). Gall symptomau gynnwys chwyddo ynghylch y goes, teimlo'n flinedig, chwydu, colli'r awydd i fwyta, neu ddryswch. Mae modd i glefyd acíwt arwain at gymhlethdodau, er enghraifft wremia, lefelau uchel o botasiwm yn y gwaed, neu orlwytho cyfaint. Gall cymhlethdodau clefyd cronig gynnwys clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel, neu anemia.
 
<ref name="Li2012">{{Cite journal|title=Insulin Resistance in Patients with Chronic Kidney Disease|last=Liao|first=Min-Tser|last2=Sung|first2=Chih-Chien|journal=Journal of Biomedicine and Biotechnology|doi=10.1155/2012/691369|year=2012|volume=2012|pages=1–5|pmc=3420350|pmid=22919275|last3=Hung|first3=Kuo-Chin|last4=Wu|first4=Chia-Chao|last5=Lo|first5=Lan|last6=Lu|first6=Kuo-Cheng}}</ref><ref name="MP2017">{{Cite web|url=https://medlineplus.gov/kidneyfailure.html|title=Kidney Failure|access-date=11 November 2017|website=MedlinePlus|language=en}}</ref>
 
Gall y canlynol achosi methiant yr arennau aciwt - pwysedd gwaed isel, rhwystr yn y llwybr wrinol, rhai meddyginiaethau, gwaeledd cyhyrol, a syndrom wremig hemolytig. Mae modd i'r canlynol achosi methiant cronig yr arennau - pwysedd gwaed uchel, syndrom neffrotig, a chlefyd yr arennau polycystig. Rhoddir diagnosis methiant aciwt fel arfer ar sail cyfuniad o ffactorau megis gostyngiad mewn cynhyrchiad wrin neu gynnydd serwm creatinin. Fel rheol rhoddir diagnosis clefyd cronig ar sail gyfradd hidlo glomerwlar (GFR) o lai na 15 neu'r angen am therapi ailosod arennol. Mae'r cyflwr hefyd yn gyfwerth â phennod 5 clefyd cronig yr arennau.
Llinell 8:
 
 
== ReferencesCyfeiriadau ==
{{reflistCyfeiriadau}}