Brwydr Llyn Trasimene: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ymladdwyd '''Brwydr Llyn Trasimene''' ar [[24 Mehefin]] [[217 CC]] yn [[Umbria]] yng nghanolbarth yr [[Eidal]], rhwng byddin [[Gweriniaeth Rhufain]] dan y conswl [[Gaius Flaminius Nepos]] a byddin [[Carthago]] dan [[Hannibal]]. Roedd yn un o frwydrau mwyaf yr [[Ail Ryfel Pwnig]], ac yn un o fuddugoliaethau mwyaf Hannibal.
 
Ymladdwyd y frwydr ar lan ogleddol [[Llyn Trasimeno]]. Roedd byddin Rhufain o tua 40,000 yn symud tua'r dwyrain ar hyd glan y llyn, yn awchus am frwydr. Roedd yn fore niwlog, ac yn ddiarwybod i'r Rhufeiniaid, roedd Hannibal wedi cuddio ei fyddin o tua 50,000 yn y bryniau uwchben y llyn. Ymosodasant yn ddirybudd, gan ddal y Rhufeiniaid cyn iddynt fedru trefnu eu rhengoedd ar gyfer brwydr. Lladdwyd tua 30,000 o'r Rhufeiniaid, un ai yn y brwydrfrwydr neu trwy foddi yn y llyn wrth geisio dianc. Ymhlith y meirwon roedd Gaius Flaminius Nepos ei hun. Roedd colledion y Carthaginiaid yn llawer llai, rhwng 1,500 a 2,500.
 
[[Categori:Gweriniaeth Rhufain]]