Maes dylanwad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gweler hefyd: man gywiriadau using AWB
ehangu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:Monroe doctrine.jpg|bawd|Cartŵn gwleidyddol o 1912 sydd yn portreadu'r hemisffer gorllewinol y tu mewn i faes dylanwad Wncl Sam (UDA), dan delerau Athrawiaeth Monroe.]]
Yng [[cysylltiadau rhyngwladol|nghysylltiadau rhyngwladol]], ardal neu ranbarth yw '''maes dylanwad''' neu '''gylch dylanwad''' sydd â dylanwad sylweddol drosti gan [[gwladwriaeth|wladwriaeth]] neu [[gweithredydd (cysylltiadau rhyngwladol)|weithredydd]] arall.
Term a ddefnyddir yn [[cysylltiadau rhyngwladol#Hanes|hanes cysylltiadau rhyngwladol]] a [[daearwleidyddiaeth]] gyfoes yw '''maes dylanwad''' neu '''gylch dylanwad''' sydd yn disgrifio ardal neu ranbarth daearyddol sydd yn ddarostyngedig i reolaeth, awdurdod neu ddylanwad [[gwladwriaeth]] neu [[gweithredydd (cysylltiadau rhyngwladol)|weithredydd]] arall. Nid yw'r wlad drechaf yn hawlio [[sofraniaeth]] dros y diriogaeth ddarostyngedig, ond yn mynnu statws dethol neu dra-ffafriedig o ran cysylltiadau economaidd, y berthynas wleidyddol, neu'r sefyllfa filwrol.<ref>Graham Evans a Jeffrey Newnham, ''The Penguin Dictionary of International Relations'' (Llundain: Penguin, 1998), t. 509.</ref>
 
Yn hanesyddol, ystyr maes dylanwad oedd yr ardal a gafodd ei hawlio gan bŵer tramor i fod yn ddarostyngedig i'w [[hegemoni]]. Modd o [[imperialaeth]] ydoedd er mwyn i wlad rymus ennill ac ehangu ei dylanwad ac awdurdod dros wlad wanach, annatblygedig gan amlaf, er budd [[diddordebau'r wlad]] drechaf. Gan amlaf bu'r pŵer trechaf yn anelu at ennill rhagor o reolaeth dros ei faes dylanwad, megis [[gwladychu]] neu [[cyfeddiannu|gyfeddiannu]]'r tir neu sicrhau [[monopoli]] economaidd dros y diriogaeth heb reolaeth wleidyddol ohonni.
== Gweler hefyd ==
* [[Cydbwysedd grym yng nghysylltiadau rhyngwladol]]
* [[Daearwleidyddiaeth]]
* [[Diddordebau'r wlad]]
 
Daeth yr ymadrodd yn gyffredin yn oes drefedigaethol y gwledydd [[Ewrop]]eaidd yn y 19g, yn enwedig [[yr Ymgiprys am Affrica]] a'r [[Y Gêm Fawr|Gêm Fawr]] yng [[Canolbarth Asia|Nghanolbarth Asia]]. Datblygodd y cysyniad o feysydd dylanwad yn norm yng nghyfraith y cenhedloedd a wneid yn ffurfiol gan [[cytundeb|gytundebau]] rhwng y gwladychwyr. Defnyddiasant y fath cytundebau i ehangu eu [[ymerodraeth|hymerodraethau]] trwy gipio tiriogaethau cyfagos. Oherwydd y gystadleuaeth dros diriogaethau, roedd cytundebau ar feysydd dylanwad yn bwysig i [[cydbwysedd grym yng nghysylltiadau rhyngwladol|gydbwyso'r grym]] yn oes [[Cytgord Ewrop]] ac i atal rhyfela rhwng gwledydd Ewrop. Hawliodd [[Unol Daleithiau America]] yr holl hemisffer gorllewinol yn faes dylanwad trwy [[Athrawiaeth Monroe]], a mabwysiadodd bolisïau economaidd a milwrol i ehangu ei grym dros wledydd eraill [[yr Amerig]], er enghraifft [[Diplomyddiaeth y Ddoler]].
{{eginyn cysylltiadau rhyngwladol}}
 
Cafwyd cytundebau hefyd rhwng y gwladychwr a chynrychiolydd o'r diriogaeth yn y maes dylanwad. Roedd y sefyllfa yn fath o ddychmygiad cyfreithiol oblegid sofraniaeth y cenhedloedd a leolir yn y maes dylanwad, gan ddiogelu eu [[annibyniaeth|hannibyniaeth]] ddamcaniaethol. Yn wir, roedd yr hegemon yn hynod o bwerus ac yn barod i orfodi grym – boed yn wleidyddol, yn economaidd neu'n filwrol – os oedd bygythiad i'w awdurdod yn y maes dylanwad. Os nad oedd y pŵer hegemonaidd yn fodlon wladychu'r diriogaeth yn gyfangwbl, yn aml cafodd [[protectoriaeth|brotectoriaeth]] neu [[gwladwriaeth byped|wladwriaeth byped]] ei sefydlu yn lle.
 
Yn y byd [[ôl-drefedigaethrwydd|ôl-drefedigaethol]], defnyddir yr ymadrodd i ddisgrifio rhannau'r byd sydd dan ddylanwad pwerau mawrion neu bwerau rhanbarthol. Yn y drefn ryngwladol gyfoes, caiff [[cyfanrwydd tiriogaeth]] ei ymgorffori yn [[y gyfraith ryngwladol]] ac mae gwledydd yn ffurfio'u meysydd dylanwad trwy ddulliau [[diplomyddiaeth|diplomyddol]], [[masnach ryngwladol|masnachol]], a diwylliannol yn hytrach na grym milwrol. Cyhuddir gwledydd pwerus o [[imperialaeth ddiwylliannol]] a [[neo-wladychiaeth]] o ganlyniad i'r fath bolisïau. Yn ystod [[y Rhyfel Oer]], cafodd y byd ei rannu rhwng gwledydd [[cyfalafiaeth|cyfalafol]] y tu mewn i faes dylanwad UDA, gwledydd [[comiwnyddiaeth|comiwnyddol]] dan ddylanwad [[yr Undeb Sofietaidd]], a gwledydd tlawd "[[y Trydydd Byd]]" (neu'r [[Mudiad Amhleidiol]]). Ers [[cwymp yr Undeb Sofietaidd]] ym 1990–91, mae [[Ffederasiwn Rwsia]] wedi hawlio maes dylanwad dros y [[cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd|cyn-weriniaethau Sofietaidd]], a elwir yn "[[y tramor cyfagos]]". Mae UDA wedi ehangu ei faes dylanwad yn enw ei [[diogelwch cenedlaethol]], er enghraifft yn [[y Dwyrain Canol]] trwy [[Rhyfel Irac|oresgyn Irac]] yn 2003 i ddymchwel llywodraeth [[Saddam Hussein]].
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
* [[Categori:Daearwleidyddiaeth]]
[[Categori:Damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol]]
[[Categori:Imperialaeth]]
[[Categori:Termau gwleidyddol]]