[[Chogyal]] (brenin) cyntaf Teyrnas [[Sikkim]], sydd yn un o daleithiau [[India]] heddiw, oedd '''Phuntsog Namgyal''' ([[1604]]–[[1670]]). Cafodd ei gysegru yn chogyal yn [[1642]] yn 38 oed. Roedd Phuntsog yn ddisgynydd yn y bumed ach o [[Guru Tashi]], tywysog o'r 13eg ganrif yn Nhŷ Mi-nyak yn [[Kham]], dwyrain [[Tibet]].
Yn ôl y chwedl, roedd [[Guru Rinpoche]], sant [[Bwdhaeth|Bwdhaidd]] [[Tibet]]aidd o'r 9fed ganrif, wedi rhagweld y byddai un "Phuntsog o'r dwyrain" yn dod yn chogyal Sikkim. Yn [[1642]], daeth tri [[lama]] o Dibet i chwilio amdano. Ger safle y [[Gangtok]] bresennol daethant ar draws dyn yn gwneud iogwrt. Cawsant groeso anrhydeddus a daethant i sylweddoli mae hwn oedd y dyn roeddent yn chwilio amdano. Coronwyd Phuntsog ar safle [[chorten]] Norbughang yn [[Yuksom]], yn y bryniau coediog, lle sefydlodd ei brifddinas.
Gyda chymorth y tri lama, aeth Phuntsog ati i droi'r bobl [[Lepcha]] leol yn Fwdhyddion ac ehangodd ei deyrnas i gyfeiriad y dwyrain i fyny i [[Dyffryn Chumbi|Ddyffryn Chumbi]] yn Nhibet, dros y [[Nathu La]], i'r de i gynnwys ardal bresennol [[Darjeeling]], a rhannau o ddwyrain [[Nepal]].
Rhanwyd y deyrnas newydd yn ddeuddeg [[Dzong]] (ardal) dan reolaeth dzongpon (llywodraethwr) Lepcha. Cofir Phuntsog heddiw fel y brenin a sefydlodd yr enwad [[Nyingmapa]] ("Yr Hetiau Cochion") yn Sikkim. Cafodd ei olynu gan ei fab [[Tensun Namgyal]] in [[1670]].