Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B0LL0CKS (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae rhaglen '''Ddiploma'r Fagloriaeth Ryngwladol''' (Saesneg, ''The International Baccalaureate Diploma IB'') yn gymhwyster wedi ei arholi yn nhair [[iaith]] ([[Saesneg]], [[Ffrangeg]] neu [[Sbaeneg]]) ac yn gymhwyster mynedfa i [[Prifysgol|Brifysgol]] a gydnabyddir dros y [[byd]] i gyd. Dysgir yn 2,075 [[ysgol]], llawer ohonynt yn ysgolion rhyngwladol, yn 125 [[gwlad]] dros y [[byd]] i gyd (yn [[2007]]). Mae dros hanner yr ysgolion lle ddysgir y Diploma wedi eu cylludo gan y wladwriaeth. Mae'r rhaglen wedi ei llywodraethu gan ''Drefnidiaeth y Fagloriaeth Ryngwladol'' (Saesneg, ''International Baccalaureate Organization'') Mae'r IBO a sefydlodd y Fagloriaeth wedi'i thadogi gyda'r [[Cenhedloedd Unedig]] ac yn arwyddwr ''Rhaglen Heddwch UNESCO'' ac wedi cytuno i'w gynnwys ymhob agwedd o'i chwricwlwm.
 
==Cwricwlwm==
Mae'r rhaglen yn cynnwys chwe phwnc yn ogystal â thraethawd estynedig (4000 o eiriau), ToK (Athroniaeth Wybodaeth), ac o leiaf 150 awr o CAS (creadigol, ymarfer corfforol a gwasanaeth). Gwobrwyir 7 marc am bob pwnc, 7 yw'r uchaf ac 1 yw'r isaf, gyda hyd at dri marc ychwanegol ar gyfer ToK a'r traethawd estynedig. Cyfanswm y marciau ar gyfer y Diploma yw 45 marc. Rhaid pasio holl feysydd y rhaglen er mwyn ennill y Diploma. Y chwe maes bynciol yw:
 
*'''Maes 1: [[Iaith|Mamiaith]]:''' Fel arfer [[iaith]] gryfaf y myfyriwr, 80 o ieithoedd ar gael.
*'''Maes 2: [[Iaith|Ail iaith]]:''' Iaith ychwanegol.
*'''Maes 3: [[Cymdeithas|Unigolyn a'r gymdeithas]]:''' Y Dyniaethau yw'r rhain sydd yn cynnwys ardaloedd fel [[Hanes]], [[Daearyddiaeth]], [[Seicoleg]], [[Gwleidyddiaeth]], [[Athroniaeth]], ayyb.
*'''Maes 4: [[Gwyddoniaeth|Gwyddorau Arbrofol]]:''' Mae'r rhain yn cynnwys [[Bioleg]], [[Ffiseg]], [[Cemeg]], Gwyddorau Amgylcheddol, ayyb.
*'''Maes 5: [[Mathemateg]]:''' Astudiaeth o fathemateg ar dair safon. Mae modwilau o bur, [[ystadegaeth]] a mecaneg ar gael.
*'''Maes 6: [[Celfyddydau]]:''' Gellir naill ai astudio pwnc creadigol fel [[Cerddoriaeth]], [[Celf]], [[Ddrama|Drama]], neu gellir dewis un pwnc arall o feysydd 1 i 5.
 
Rhaid astudio tri phwnc i Safon Uwch (safon a ystyrir i fod yn uwch na TAG Safon Uwch) a thri phwnc arall i Safon Sylfaenol (ychydig yn uwch nag Uwch Gyfrannol TAG). Mae'r ymgeiswyr fel arfer yn eistedd tair arholiad yn eu pynciau uwch a dwy arholiad yn eu pynciau sylfaenol. Mae yna elfennau o waith cwrs yn y pynciau i gyd gyda'r arholiadau ysgrifenedig i gyd yn cael eu sefyll ar ddiwedd ail flwyddyn (y flwyddyn olaf) y rhaglen.
 
==Ysgolion yng Nghymru==
*Ysgol Gyfun Witchurch, [[Caerdydd]]
*Coleg Llandrillo, [[Conwy]]
*Coleg Abertawe, [[Abertawe]]
*United World College of the Atlantic, [[De Morgannwg]]
*Ysgol Tŷ Westborne, [[De Morgannwg]]
 
Mae'r rhan fwyaf o'r ysgolion uchod yn cynnig [[Cymraeg]] fel opsiwn hunan-ddysgu ar Safon Sylfaenol.
 
==Dolen Allanol==
*[http://www.ibo.org/diploma/ Gwefan Swyddogol]
*[http://www.swancoll.ac.uk/Webpages/CoursesFT/displaycourse.aspx?courseid=211 IB yng Ngholeg Abertawe]
 
[[Categori:Addysg]]
 
[[da:IB Diploma Programme]]
[[de:International Baccalaureate]]
[[es:Programa del Diploma del Bachillerato Internacional]]
[[fr:Baccalauréat international]]
[[ja:国際バカロレア資格]]
[[no:IB Diploma Programme]]
[[pl:Matura międzynarodowa]]
[[sr:Међународна матура]]
[[sv:International Baccalaureate Diploma Programme]]
[[th:International Baccalaureate]]
[[zh:國際文憑大學預科課程]]