Gerald Morgan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
== Addysg ==
Ganed Gerald Morgan yn [[Brighton]] yn 1935 i rieni o Gymry, ond di-Gymraeg. Aeth ati i ddygu Cymraeg, "o ddim" pan oedd yn ddyn ifanc.<ref>Datganiad i'r wasg ar gyfer Parêd Gwyl Dewi Aberystwyth 2015</ref> Graddiodd mewn Saesneg o [[Prifysgol Caergrawnt|Brifysgol Caergrawnt]] ac mewn mewn Astudiaethau Celtaidd o [[Prifysgol Rhydychen|Brifysgol Rhydychen]] gan symud i fyw i Gymru yn 1962. Bu'n athro Saesneg yn yr [[Ysgol Maes Garmon]], [[Yr Wyddgrug]] ac [[Ysgol Uwchradd Aberteifi]] cyn dod yn brifathro ar [[Ysgol Gyfun Llangefni]] cyn cael ei benodi’n brifathro cyntaf [[Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig]] yn [[Aberystwyth]] yn 1973.
 
== Awdur ==
Mae Gerald Morgan wedi bod yn awdur toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg dros gyfnod o hanner canrif. ''Ymysg ei lyfrau mae: ''Yr Afal Aur'' (1965), ''The Dragon’s Tongue: The Fortunes of the Welsh Language'' (1966), ''This World of Wales'' (editor; 1968), ''Crist yn y Gwlag'' (1986), ''Castles in Wales: A Guidebook'' (2008), ''A Brief History of Wales'' (2008), ''Looking for Wales'' (2013) a ''Dinefwr: a Phoenix in the Welsh Landscape'' (2014).
 
Mae hefyd wedi ysgrifennu’n fynych ar Geredigion: ''Cyfoeth y Cardi'' (1995), ''Helyntion Y Cardi – Ysgrifau Ar Hanes Ceredigion'' (1997), ''A Welsh House and its Family: the Vaughans of Trawscoed'' (1997), ''Nanteos: A Welsh House and its Families'' (editor; 2001), ''Ceredigion: A Wealth of History'' (2005), ''Llwybr Arfordir Ceredigion – O’r Teifi i’r Dyfi / Ceredigion Coast Path – From the Teifi to the Dyfi'' (2008).