Caban F'ewyrth Twm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: lt:Dėdės Tomo trobelė
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Clawr Caban F'ewyrth Twm.PNG|bawd|200px|Clawr y Fersiwn Cymraeg, argraffiad cynnar]]
 
Mae '''Caban F'ewyrth Twm''' (Teitl gwreiddiol Saesneg: ''Uncle Tom's Cabin; or, Life Among the Lowly'') yn nofel gan yr awdurawdures [[UDA|Americanaidd]] [[Harriet Beecher Stowe]] a gyhoeddwyd yn [[1852]]. Roedd y nofel wedi ei bwriadu fel ymosodiad ar [[Caethwasiaeth|gaethwasiaeth]], a bu'n llwyddiant enfawr. Ystyrir iddi fod allweddol owrth greu'r agweddau a arweiniodd at [[Rhyfel Cartref America|Ryfel Cartref America]]. Dywedir i [[Abraham Lincoln]], pan gyflwynwyd Harriet Beecher Stowe iddo yn ystod y rhyfel, wneud y sylw "Felly dyma'r ddynes fach a ddechreuodd y rhyfel mawr yma".
 
Ymhlith y dylanwadau ar y nofel, roedd hunangofiant [[Josiah Henson]], cyn-gaethwas oedd wedi llwyddo i ddianc i [[Canada|Ganada]] yn [[1830]]. Bu Stowe hefyd yn siarad aâ chryn nifer o gaethweision a chyn-gaethweision iwrth gasglu deunydd ar gyfer y llyfr.
 
Gwerthwyd mwy o gopiau o ''Uncle Tom's Cabin'' nag o unrhyw lyfr arall yn ystod y [[19eg ganrif]] agac eithioeithrio'r [[Beibl]]. Gwerthwyd 300,000 o gopiau yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1854 roedd y llyfr wedi ei drosi i 60 o ieithoedd gwahanol.
 
Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf, gan Hugh Williams dan y teitl ''Caban F'ewyrth Twm'', yn [[1853]]. Ond cyn hynny roedd addasiad gan William Rees ([[Gwilym Hiraethog]]) wedi ymddangos fel pennodaupenodau wythnosol yn ''[[Baner ac Amserau Cymru|Y Faner]]'', papur newydd [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] [[Thomas Gee]]: fe'i cyhoeddwyd fel ''Aelwyd F'Ewythr Robert'' ym Medi 1853. Mae Gwilym Hiraethog yn rhoi gwisg Gymreig i'w addasiad trwy ei osod mewn fframwaith o deulu ymyng [[Meirionnydd]]ngogledd Cymru yn darllen ''Caban F'ewythrEwythr Twm'' (sef cyfieithiad Hiraethog o'r nofel) gyda'r nos ac yn trafod ei arwyddocád yng nghyd-destun [[Radicaliaeth]] Gymreig y cyfnod. Cafodd fersiynau Rees a Williams eu hailargraffu nifer o weithiau yn ail hanner y 19eg ganrif. Cyhoeddwyd talfyriad Cymraeg tua'r un adeg gan [[Thomas Levi]].
 
==Llyfryddiaeth==
{{commons|Category:Uncle Tom's Cabin|Caban F'ewyrth Twm}}
* Raymond B. Davies "Caban f'ewyrth Twm" ''Y Casglwr'' 68 (2000), tt. 6-7 .
*E. Wyn James, [http://www.cf.ac.uk/insrv/libraries/scolar/digital/welshballads/caethwasanaeth.html ‘Caethwasanaeth a’r Beirdd, 1790-1840’], ''Taliesin'', 119 (2003), tt.37-60. ISSN 0049-2884.
 
[[Categori:Nofelau Saesneg]]