Caban F'ewyrth Twm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
tacluso, fformat
Llinell 1:
[[Delwedd:Clawr Caban F'ewyrth Twm.PNG|bawd|200px|Clawr y Fersiwn Cymraeg, argraffiad cynnar]]
 
Mae '''Caban F'ewyrth Twm''' (Teitl gwreiddiol Saesneg: '''Uncle Tom's Cabin'''''Testun italig''; orneu, '''Life Among the Lowly'''''Testun italig'') yn nofel gan yr awdures [[UDA|Americanaidd]] [[Harriet Beecher Stowe]] a gyhoeddwyd yn [[1852]]. Roedd y nofel wedi ei bwriadu fel ymosodiad ar [[Caethwasiaeth|gaethwasiaeth]], a bu'n llwyddiant enfawr. Ystyrir iddi fod allweddol wrth greu'r agweddau a arweiniodd at [[Rhyfel Cartref America|Ryfel Cartref America]]. Dywedir i [[Abraham Lincoln]], pan gyflwynwyd Harriet Beecher Stowe iddo yn ystod y rhyfel, wneud y sylw "Felly dyma'r ddynes fach a ddechreuodd y rhyfel mawr yma".
 
Ymhlith y dylanwadau ar y nofel, roedd hunangofiant [[Josiah Henson]], cyn-gaethwas oedd wedi llwyddo i ddianc i [[Canada|Ganada]] yn [[1830]]. Bu Stowe hefyd yn siarad â chryn nifer o gaethweision a chyn-gaethweision wrth gasglu deunydd ar gyfer y llyfr.
Llinell 7:
Gwerthwyd mwy o gopiau o ''Uncle Tom's Cabin'' nag o unrhyw lyfr arall yn ystod y [[19eg ganrif]] ac eithrio'r [[Beibl]]. Gwerthwyd 300,000 o gopiau yn yr Unol Daleithiau y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1854 roedd y llyfr wedi ei drosi i 60 o ieithoedd gwahanol.
 
===Addasiad Cymraeg===
Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf, gan Hugh Williams dan y teitl ''Caban F'ewyrth Twm'', yn [[1853]]. Ond cyn hynny roedd addasiad gan William Rees ([[Gwilym Hiraethog]]) wedi ymddangos fel penodau wythnosol yn ''[[Baner ac Amserau Cymru|Y Faner]]'', papur newydd [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] [[Thomas Gee]]: fe'i cyhoeddwyd fel ''Aelwyd F'Ewythr Robert'' ym Medi 1853. Mae Gwilym Hiraethog yn rhoi gwisg Gymreig i'w addasiad trwy ei osod mewn fframwaith o deulu yng ngogledd Cymru yn darllen ''Caban F'Ewythr Twm'' (sef cyfieithiad Hiraethog o'r nofel) gyda'r nos ac yn trafod ei arwyddocád yng nghyd-destun [[Radicaliaeth]] Gymreig y cyfnod. Cafodd fersiynau Rees a Williams eu hailargraffu nifer o weithiau yn ail hanner y 19eg ganrif. Cyhoeddwyd talfyriad Cymraeg tua'r un adeg gan [[Thomas Levi]].