Teyrnas Castilla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Castil - sillafiad yr Oesoedd Canol
Llinell 1:
[[Image:Escudo de Castilla.png|bawd|200px|Arfbais Castilla]]
 
Teyrnas yng ngogledd yr hyn sy'n awr yn [[Sbaen]] yn y [[Canol Oesoedd]] oedd '''Teyrnas Castilla''' ([[Sbaeneg]]: ''Reino de Castilla'', [[Ffrangeg]]: ''Castille'', [[Saesneg]]: ''Castile''). Cyfeirir ati yng ngwaith y bardd [[Guto'r Glyn]] (c.1435 – c.1493) fel '''Castil'''.<ref>[https://cellic-dev.llgc.org.uk/wp-content/uploads/sites/2/2017/09/GUTOR-GLYN.pdf www.gutorglyn.net;] adalwyd 22 Mawrth 2018 gyda chaniatad gan Ann Parry Owen (gweler [https://twitter.com/Collen105/status/976411961792630784 Trydariad yma].</ref> Safai i'r dwyrain o [[Teyrnas Léon|Deyrnas Léon]], gan ymestyn o [[Bae Biskaia|Fae Biskaia]] yn y gogledd hys at ffiniau [[al-Andalus]] yn y de. Yn rhan olaf yr Oesoedd Canol, hi oedd y deyrnas fwyaf yn Sbaen.
 
Dechreuodd y broses o adfeddiannu Sbaen gan y Cristionogion, a elwir y [[Reconquista]], gyda gwrthwynebiad teyrnas fychan [[Asturias]] i [[Islam|Fwslimiaid]] al-Andalus, oedd wedi meddiannu bron y cyfan o benrhyn Iberia o [[711]] ymlaen. Wrth i'r Cristionogion ennill tir ac ymestyn eu tiriogaethau tua'r de, ymddangosodd yr enw Castilla tua [[800]].